Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Seibiannau i ofalwyr

Dysgwch sut i gymryd seibiant o ofalu, gan gynnwys trefnu gofal amgen.

Gallai bod yn ofalwr fod yn flinedig yn emosiynol ac yn gorfforol. Nid yw llawer o ofalwyr yn meddwl digon am eu lles eu hunain a gallant ddioddef straen o ganlyniad.

Mae cymryd seibiant o ofalu yn hanfodol, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig oriau y mae hyn.

Sut i dreulio eich egwyl

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd seibiant o ofalu, o ychydig oriau i ychydig ddyddiau, ar eich pen eich hun neu gydag eraill. Dim ond chi fydd yn gwybod beth sydd orau i chi.

Gallai rhai enghreifftiau o seibiannau gynnwys:

  • eistedd yn eich gardd neu ddarllen llyfr
  • mynd i'r gampfa neu fynd i siopa am ddiwrnod neu brynhawn
  • ymweld â ffrindiau neu deulu dros nos neu am benwythnos
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp i ofalwyr.

Mae llawer o sefydliadau cymorth ym Mhowys sy'n darparu gweithgareddau neu'n gallu trefnu seibiannau i ofalwyr.

Gallwch chwilio am y gwasanaethau hyn ar ein peiriant chwilio Dewis.

I gael rhagor o wybodaeth, cyngor a chymorth am seibiannau Gofalwyr ewch i dudalen gwe Credu.

Cymorth gan eich ffrindiau neu deulu

Mae llawer o ofalwyr yn canfod y gallai ffrind neu aelod o'r teulu ddarparu gofal neu gefnogaeth am ychydig oriau neu fwy, fel y gallan nhw gymryd seibiant.

Os nad oes gennych unrhyw un a allai wneud hyn, efallai y byddwch yn dal i allu cymryd seibiant mewn ffyrdd eraill.

Trefnu gofal a chymorth eich hun

Mae yna lawer o opsiynau y gallwch eu defnyddio pe bai angen i chi gymryd seibiant o ofalu. Gallai'r math o opsiwn y byddwch yn ei ystyried ddibynnu ar hyd y seibiant, ac unrhyw ofal neu gymorth arall y bydd y person rydych yn gofalu amdano ei angen yn eich absenoldeb.

Yn ogystal â chael cymorth gan ffrindiau neu deulu, mae opsiynau ar gyfer trefnu seibiannau tymor byr yn cynnwys:

  • trefnu i asiantaeth gofal cartref gefnogi'r person yr ydych yn gofalu amdano a chadw cwmni iddo.
  • trefnu i'r person yr ydych yn gofalu amdano fynychu canolfan ddydd, grŵp gweithgaredd neu glwb. Mae hyn fel arfer yn ystod y dydd ond gallai ddigwydd gyda'r nos.
  • trefnu cynorthwyydd personol i gefnogi'r person yr ydych yn gofalu amdano.

Gallai ein partneriaid yn Credu roi cyngor am seibiant a seibiannau, grwpiau a thripiau, eiriolaeth, y cerdyn iCare a chymorth i gael mynediad at wasanaethau seibiant.

Ond gallwch hefyd wneud ceisiadau am ofal seibiant trwy ein tîm ASSIST ar 0345 602 7050 neu e-bostiwch: assist@powys.gov.uk.

Trefnu seibiant tymor hwy

Os oes angen gofal a chymorth ar y person rydych yn gofalu amdano dros nos, a'ch bod yn bwriadu aros i ffwrdd am un noson neu fwy, efallai yr hoffech ystyried yr opsiynau canlynol:

  • trefnu gofal byw i mewn gan asiantaeth gofal cartref i ddarparu gofal 24 awr y dydd yng nghartref y person ei hun (bydd angen ystafell wely ar wahân yn yr eiddo ar gyfer y gofalwr a fydd yn byw i mewn)
  • trefnu lleoliad tymor byr mewn cartref gofal os bydd angen seibiant hirach arnoch. Cyfeirir at hyn weithiau fel gofal "seibiant".