Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwnawn fwy nag a feddyliwch

Mae ein staff ymroddedig yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau lleol o ansawdd da i chi a'ch cymuned, er gwaethaf pwysau ariannol, galw cynyddol, a chostau cynyddol. Yr ydym yn dal yma i chi.

Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau sy'n cyffwrdd â sawl agwedd ar eich bywydau bob dydd, yn aml heb i chi sylwi hyd yn oed.

Gwybodaeth Gwnawn fwy nag a feddyliwch

Dyma rai ffyrdd rydym yn eich cefnogi chi a'ch cymuned:

Eich cefnogi chi ar noson allan dros yrŵyl

Mae gennym rôl enfawr yn eich helpu chi a'ch ffrindiau i gael noson wych a hwylus allan. Dyma rai o'r ffyrdd rydyn ni'n cefnogi eich noson.

Cludiant Cyhoeddus: Efallai y byddwch yn dal bws cyhoeddus sy'n cael ei gefnogi gan y cyngor.

Cynnal a Chadw Ffyrdd: Byddwch yn teithio ar hyd ffyrdd sy'n cael eu cynnal gan y cyngor, ac a fydd wedi'u graeanu os yw'n oer.

Goleuadau Stryd: Bydd goleuadau stryd sy'n cael eu cynnal gan y cyngor yn eich helpu i weld lle ry'ch chi'n mynd.

Hylendid Bwyd: Bydd ein tim iechyd yr amgylchedd wedi archwilio'r bwyty i sicrhau ei fod yn diwallu safonau hylendid bwyd.

Trwyddedu: Bydd ein hadran drwyddedu wedi rhoi'r trwyddedau angenrheidiol ar gyfer gweini diodydd.

Safonau Masnach: Bydd safonau masnach wedi sicrhau bod eich gwydraid o win y mesur cywir.

Tacsis: Ar eich noson allan, gallwch gymryd tacsi gartref sydd wedi'i drwyddedu gan Gyngor Sir Powys.

Rhannwch yr enghreifftiau hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu o sut mae'r cyngor yn helpu i wneud eich nosweithiau allan yn ddiogel ac yn bleserus.

Cefnogi plant yn ystod eu diwrnod ysgol

Ydych chi erioed wedi ystyried yr ystod o wasanaethau a ddarperir gennym i'w cefnogi yn ystod eu diwrnod ysgol? Dyma ychydig o ffyrdd rydyn ni'n cefnogi disgyblion fel Emily.

Gwisg ysgol: Mae Emily yn derbyn gwisg ysgol newydd wedi'i hariannu gan y Grant Hanfodion Ysgol yn barod i ddechrau'r tymor newydd. Mae'r grant hwn yn cefnogi teuluoedd incwm isel.

Ysgolion: Mae hi'n cyrraedd un o'r 91 o ysgolion ym Mhowys. Mae 14 ohonynt yn gyfleusterau newydd sbon sy'n cynnig amgylchedd dysgu gwych i Emily a'i ffrindiau. Bob dydd, mae dros 15,000 o blant yn mynd drwy gatiau ysgolion ym Mhowys, gyda chost gyfartalog flynyddol o £5,864 fesul disgybl.

Staff addysgu: Mae Emily yn cael ei chyfarch gan ei hathro ac mae'n barod i ddechrau'r diwrnod. Mae athro Emily yn un o 1,020 ledled Powys.

Y Gymraeg: Mae Emily yn un o 2,760 o ddisgyblion sy'n cael ei haddysgu yn y Gymraeg fel iaith gyntaf.

Prydau ysgol: Mae pryd ysgol maethlon yn cael ei weini ar gyfer ei chinio. Dyma un pryd o'r 11,000 o giniawau a ddarperir gennym ar draws ysgolion Powys bob dydd.

Trafnidiaeth ysgol: Dim ond un o dros 5,500 o blant 4-16 oed sy'n dal bws am ddim i'r ysgol ac oddi yno bob dydd yw Emily, gyda chost gyfartalog i ni o £1,500 fesul disgybl.

Hwb: Y llwyfan dysgu i gyd-mewn-un lle: Mae Emily yn cyrraedd adref ac yn dechrau ar ei gwaith cartref. Mae ganddi fynediad at ei holl ddeunyddiau dysgu a'i gwaith cartref ar-lein, a mynediad i apiau Microsoft Office fel Word a Pwerbwynt.

Hwb: Y llwyfan dysgu i gyd-mewn-un lle: Mae Emily yn cyrraedd adref ac yn dechrau ar ei gwaith cartref. Mae ganddi fynediad at ei holl ddeunyddiau dysgu a'i gwaith cartref ar-lein, a mynediad i apiau Microsoft Office fel Word a Pwerbwynt.

#cyflawnwnfwyna'rdisgwyl

Cipolwg ar ein gweithlu

Wyddech chi? Mae gennym tua 3,000 o staff yn gweithio i ddarparu'r gwasanaethau a ddarparwn, yn ogystal â'n holl staff sy'n gweithio yn ein hysgolion ledled Powys. Ddeng mlynedd yn ôl, roedd gennym gyfanswm o 6,500 o staff, ond mae'r pwysau ariannol wedi golygu ein bod bellach yn darparu gwasanaethau gyda llai o bobl.

Mae 84% o'n staff yn breswylwyr ym Mhowys, yn gweithio i ofalu am ein cymdogion oedrannus, cynnal a chadw'r ffyrdd, cefnogi pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref a llawer mwy.

Dim ond 2.3% o'n staff sydd mewn rolau uwch. Ymfalchïwn mewn cefnogi pobl sy'n dechrau yn eu gyrfa, ar ôl croesawu 50 o brentisiaid yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf. Mae llawer yn dal i astudio, ond mae 28 ohonynt bellach yn aelodau parhaol o staff. Cynigiwn gyfleoedd dysgu a datblygu rhagorol i'n staff, gan gefnogi dros 70 o staff i gwblhau eu gradd gwaith cymdeithasol ers lansio'r cynllun 'tyfu eich hun' yn 2020.

Mae ein staff, llawer ohonynt yn aelodau o'ch teulu, ffrindiau a chymdogion yn gweithio'n hynod o galed, felly gofynnwn yn garedig i bawb eu trin â pharch a gwerthfawrogi'r gwaith maen nhw'n ei wneud i chi a'ch cymuned.

Eich cefnogi i dderbyn yr iaith o ddewis

Oeddech chi'n gwybod? Rydym yn cyfieithu dros 3 miliwn o eiriau i'r Gymraeg bob blwyddyn! Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae 36 aelod o staff wedi dechrau dysgu Cymraeg i sicrhau eich bod yn derbyn gwasanaethau yn eich dewis iaith.

Darparu lleoliadau diogel ac addas ar gyfer plant a phobl ifanc

Rydym yn wynebu pwysau ariannol sylweddol. Mae cost llawer o'r pethau rydym yn talu amdanynt wedi cynyddu llawer mwy na'r cyllid a gawn gan Lywodraeth Cymru. Mae'n costio £14.3m i ddarparu lleoliadau diogel ac addas ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hyn £1.8m yn fwy nag yr oedd flwyddyn yn ôl.

Yn cefnogi pobl i barhau i fyw gartref

Ydych chi'n gwybod y gwahaniaeth y mae ein Gweithwyr Cymdeithasol yn ei wneud i fywydau plant, oedolion a theuluoedd ym Mhowys?

Mae Chloe, Gweithiwr Cymdeithasol yn ein tîm Pobl Hŷn yn gweithio gyda phobl 65+ a'u gofalwyr yn aml yn ystod adegau o argyfwng i helpu i wella eu bywydau. Ychwanegodd Chloe, "Mae mor werth chweil pan rydyn ni'n cefnogi pobl i barhau i fyw gartref pan nad oedden nhw'n teimlo y byddai modd gwneud hynny i ddechrau". Os ydych chi, ffrind neu aelod o'r teulu angen gwybodaeth a chyngor ar gyfer gofal a chymorth i oedolion, ewch CYMORTH

Nid high vis yn unig!

Fel rhan o #WythnosGenedlaetholGyrfaoedd rydym yn tynnu sylw at yr ystod eang o wasanaethau rydym yn eu darparu a'r gyrfaoedd amrywiol sy'n gwneud i bopeth ddigwydd bob dydd. Mae ein staff gweithgar yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau ar draws amrywiol yrfaoedd, gan gynnwys:

  • Llyfrgellydd
  • Peiriannydd Sifil
  • Swyddog Iechyd Anifeiliaid
  • Swyddog Lles
  • Swyddog Cymorth Digartrefedd

 

Darparu tua 8,500 awr o ofal cartref

Ar hyn o bryd rydym yn darparu tua 8,500 awr o ofal cartref ar draws Powys bob mis, gan gefnogi 580 o unigolion yn eu cartrefi eu hunain.

Mae'r galw am ein gwasanaethau yn parhau i dyfu bob blwyddyn.

Yr adeg yma y llynedd, roeddem yn cefnogi 460 o unigolion gyda 6,419 awr o ofal - rydym yn gofalu am 120 o unigolion ychwanegol gyda chynnydd o dros 2,000 awr.

Eich cludo chi o A i B, bob dydd!

Bob dydd rydym yn eich cefnogi chi a'ch cymuned i gyrraedd a dod adre'n ôl o'r siopau, y gwaith, yr ysgol, a'r coleg mewn ffordd ecogyfeillgar trwy leihau traffig ar ein ffyrdd.

Oeddech chi'n gwybod? Rydym yn cludo tua 1 miliwn o deithwyr bob blwyddyn ar ein bysiau cyhoeddus a 5,500 o ddysgwyr bob dydd.

Mae ein tîm Trwyddedu yn eich cadw'n ddiogel ac yn sicrhau bod rheolau'n cael eu dilyn

Mae ein Tîm Trwyddedu yn chwarae rhan fawr yn eich bywyd bob dydd, yn aml heb i chi sylwi hyd yn oed.

I ddechrau'r ymgyrch, gwyliwch ein rîl a gwiriwch y ffeithiau isod i ddeall ehangder eu gwaith.

800+ o Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro (TENs) yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol ar gyfer digwyddiadau fel sioe bentref a phriodasau.

300+ o ymweliadau â thafarndai, clybiau, canolfannau cymunedol a sinemâu i gael cefnogaeth ac i wirio cydymffurfiaeth.

400+ o gerbydau trwyddedig a 500+ o yrwyr trwyddedig o dacsis, cludiant ysgol a llogi preifat i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion diogelwch.

Archwilio 200 o safleoedd carafanau a 20 o safleoedd cartrefi symudol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau a bod pobl yn cael arhosiad diogel a phleserus.

Wyddoch chi fod ein Tîm Trwyddedu yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod digwyddiadau lleol a mawr ym Mhowys yn digwydd yn ddiogel?

Mae angen trwyddedu ar gyfer digwyddiadau lleol fel cynulliadau neuadd bentref, ffeiriau ysgol, priodasau a sioeau pentref. Mae ein Tîm Trwyddedu yn cyhoeddi dros 800 o Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro (TENs) bob blwyddyn i sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn ddiogel.

Rydym hefyd yn cefnogi digwyddiadau mawr fel Greenman, Gŵyl y Gelli, Sioe Frenhinol Cymru a Gŵyl Gomedi Mach, gan sicrhau eu bod yn rhedeg yn esmwyth. Mae ein tîm yn ymdrin â thrwyddedau adloniant a gwerthu alcohol, yn adolygu cynlluniau digwyddiadau, yn cydweithio â grwpiau diogelwch ac yn cynnal Archwiliadau Safle cyn ac yn ystod digwyddiadau.

Dyma sut mae'r Tîm Trwyddedu yn cefnogi eich noson allan:

  • Mynd i'ch tafarn leol am ddiod? Rydym yn sicrhau bod gan bob tafarn y trwyddedau cywir ar gyfer alcohol a pheiriannau gemau fel y gallwch chi fwynhau'ch noson yn ddiogel ac yn gyfrifol.
  • Cael cebab yn hwyr yn y nos - Eisiau cebab ar ôl 11pm? Rydym yn sicrhau bod gan bob darparwr bwyd y trwyddedau gofynnol ar gyfer gweini bwyd a diodydd poeth i chi'n hwyr yn y nos.
  • Cael tacsi adref? Sicrhewch ei fod yn un trwyddedig! Rydym yn archwilio tacsis trwyddedig i wneud yn siŵr bod eich taith adref yn ddiogel ac yn ddibynadwy. Sicrhewch fod y gyrrwr yn arddangos bathodyn sy'n nodi ei fod wedi'i drwyddedu, bod ganddo blât rhif trwydded ar y cerbyd, sy'n dangos ei fod wedi'i archwilio a'i roi gennym ni, ac yn defnyddio mesurydd talu wedi'i galibro i ffioedd Trwyddedu Powys i sicrhau eich bod y gost yn deg.
  • Rydym yn archwilio dros 500 o yrwyr trwyddedig.
  • Rydym hefyd yn gweithio gyda thafarndai i reoli lefelau sŵn ar gyfer trigolion cyfagos.

 

Hwyl hanner tymor cost isel neu AM DDIM.

Edrychwch ar eich llyfrgell leol. Gallwch fwynau Amser Stori ac Amser Odli mewn llawer o'n llyfrgelloedd ar draws Powys. Gallwch hefyd fenthyg beiciau cydbwysedd AM DDIM i helpu eich rhai bach i ddysgu reidio 

Archwiliwch yr awyr agored gyda dros 12,000 o hawliau tramwy cyhoeddus ym Mhowys, mae digon o le ar gyfer cerdded, beicio, ac anturiaethau marchogaeth.

Amdani Powys: Defnyddiwch ein darganfyddwr gweithgaredd i ddewis gweithgareddau lleol i chi a'ch teulu.

Gall plant sblasio a chwarae at eich Freedom Leisure lleol. 

Archwiliwch un o'n hamgueddfeydd gyda mynediad AM DDIM ar draws y sir. Mae gan ein hamgueddfeydd rywbeth at ddant pawb. Os nad yw'r tywydd yn braf, gallwch fenthyg gemau AM DDIM i'w mwynhau gartref.

Darganfyddwch fwy yma - Dechrau 'n Deg Gallwch ganfod gwybodaeth am weithgareddau i blant a phobl ifanc

Cefnogi a grymuso pobl ifanc ym Mhowys

Rydym yn dathlu gwaith gwych ein tîm gwaith ieuenctid - cefnogi a grymuso pobl ifanc ym Mhowys.

Cymerwch olwg ar y rîl fer sy'n tynnu sylw at eu gwaith a'r effaith y mae'n ei chael ar fywydau bob dydd.

Mae ein tîm gwaith ieuenctid yn angerddol am greu mannau diogel, cefnogol a chroesawgar lle gall pobl ifanc dyfu, dysgu a ffynnu:



Dywedodd Helen Quarrell, Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid Integredig, "Rwy'n caru fy swydd oherwydd mae pob dydd yn wahanol, ac rwy'n cael gweithio ochr yn ochr â gweithwyr ieuenctid hynod ymroddedig, angerddol ac ymrwymedig sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae'n fwy na dim ond swydd! Mae gwaith ieuenctid yn bwerus - mae'n newid bywydau, yn adeiladu dyfodol ac yn cryfhau cymunedau.

Dewch i gwrdd â Jess, sy'n rhannu blas o'i rôl a sut mae'n cefnogi ac yn grymuso unigolion ifanc:



#RydymNaGwneudMwyNagRydychChinEiFeddwl #maegwaithieuenctidyngweithio

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu