Eich Hawliau a'ch dewisiadau

Gallwch optio allan o gofrestru awtomatig, ond efallai y bydd dal angen i chi gofrestru yn nes ymlaen os ydych yn gymwys oherwydd yn ôl y gyfraith, bydd yn rhaid i ni anfon gwahoddiad atoch i gofrestru o fewn 28 diwrnod calendr o'ch dynodi fel darpar etholwr ar gyfer etholiadau Seneddol y DU a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
I optio allan, cysylltwch a ni dros y ffon 01597 826747, neu drwy e-bost yn: electoral.services@powys.gov.uk
Yn ansicr ai dyma'r cyfeiriad cywir ar gyfer eich cofrestriad?
Os nad ydych chi'n byw yn y cyfeiriad hwn neu'n ymweld yn achlysurol yn unig, rhaid i chi roi gwybod i ni.
Os ydych chi'n byw mewn sawl cyfeiriad gan gynnwys hwn, nid oes angen I chi wneud unrhyw beth, ond dim ond mewn un lle y gallwch chi bleidleisio yn etholiadau'r Senedd.
I roi gwybod i ni nad ydych chi'n byw yma neu i wirio a ydych wedi cofrestru yn rhywle arall, cysylltwch a ni dros y ffon 01597 826747 neu drwy e-bost yn: electoral.services@powys.gov.uk
Sut rydym yn cadw'ch data diogel:
- Cofrestr gaeedig yw hon - gellir ei defnyddio at ddibenion etholiadol a gwirio credyd, ond ni fydd eich manylion chi'n cael eu gwerthu i unrhyw drydydd parti.
- Mae unrhyw wybodaeth a gesglir neu a ddarperir ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig wedi ei phrosesu'n unol ar ddeddfwriaeth diogelu data.