Sbeicio - Sut i Helpu

Cofiwch GOFAL
G - Gweithredwch yn dawel ac yn gyflym
O - Osgowch banig
F - Ffoniwch am gymorth meddygol
A - Arhoswch gyda nhw
L - Lleisiwch eich cefnogaeth. Mewn Argyfwng: Ffoniwch 999, Di-Frys: Ffoniwch 101
Sut i Gadw'n Ddiogel
- Peidiwch byth â gadael diodydd heb oruchwyliaeth
- Peidiwch â derbyn diodydd gan ddieithriaid
- Peidiwch â rhannu fêps, yn enwedig gyda phobl nad ydych chi'n eu hadnabod
- Arhoswch gyda'ch ffrindiau a chytunwch ar gynllun i fynd adref
- Cadwch lygad ar eich gilydd — os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, dywedwch rywbeth