Sbeicio - Adrodd a Chymorth

Sut i Adrodd Am Sbeicio
Mae sbeicio'n drosedd ddifrifol. Mae adrodd yn helpu i ddiogelu eraill a gall atal digwyddiadau yn y dyfodol.
- Mewn Argyfwng: Ffoniwch 999 os yw rhywun mewn perygl neu angen cymorth brys.
- Di-Frys: Ffoniwch 101. Nid oes terfyn amser ar adrodd, a gallwch wneud hynny'n ddienw.
- Riportio Ar-lein: Adrodd sbeicio | Heddlu Dyfed-Powys Defnyddiwch y ffurflen gyflym a diogel i riportio.
Pan fyddwch yn riportio am sbeicio, naill ai ar-lein neu dros y ffôn, gofynnir ychydig o gwestiynau syml i chi i helpu i ddeall beth ddigwyddodd. Nid oes angen i chi gael yr holl atebion, ac ni fyddwch yn mynd i drafferth am fod yn ansicr. Mae eich adroddiad yn helpu i gadw pobl eraill yn ddiogel.
Cymorth Os Ydych Chi Wedi Cael Eich Sbeicio
Mae teimlo sioc, ofn neu ddryswch yn ymateb arferol. Nid chi sydd ar fai, ac nid chi yw'r unig un.
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi cael eich sbeicio, siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo, boed yn ffrind, yn aelod o'r teulu, neu'n rywun agos atoch chi. Gall rhannu'r hyn a ddigwyddodd eich helpu i deimlo eich bod yn cael cefnogaeth.
Mae gwasanaethau cymorth proffesiynol ar gael hefyd: