Cychwyn Iach
Mynnwch help i brynu bwydydd a llaeth (Y Cynllun Cychwyn Iach)
Cynllun Cychwyn Iach y GIG (Cymru)
Mae Cychwyn Iach yn gynllun gan y llywodraeth i gefnogi'r rhai sy'n feichiog, a theuluoedd ifanc i gael mynediad at fwyd iach, llaeth a fitaminau (nodwch fod y canllaw hwn yn ymwneud â bwyd iach a llaeth yn unig.)
Gwneir ceisiadau gan deuluoedd ar-lein ac anfonir cerdyn rhagdaledig a ddefnyddir i brynu cynhyrchion iach drwy'r post. Caiff y cerdyn rhagdaledig hwn ei ail-lenwi bob 4 wythnos gyda'r taliad, gellir ei wario'r mis hwnnw neu ei wario ar archeb siopa fwy.
Gellir defnyddio'r cerdyn rhagdaledig mewn unrhyw siop sy'n gwerthu'r cynhyrchion penodedig ac yn derbyn Mastercard©.
Pa eitemau y gellir eu prynu?
- Ffrwythau a llysiau ffres, wedi'u rhewi neu mewn tun
- Corbys ffres, sych neu mewn tun
- Llaeth buwch
- Llaeth fformiwla babanod
Beth yw Cychwyn Iach?
Os ydych chi'n feichiog ers 10 wythnos neu fwy neu os oes gennych chi blentyn o dan 4 oed, efallai y bydd gennych hawl i gael help i brynu bwyd iach a llaeth.
Os ydych yn gymwys, bydd cerdyn Cychwyn Iach yn cael ei anfon atoch gydag arian arno a gallwch ddefnyddio hwn mewn rhai siopau yn y DU, a bydd taliad ychwanegol yn cael ei roi ar y cerdyn bob 4 wythnos.
Gallwch ddefnyddio eich cerdyn i brynu:
- llaeth buwch hylif plaen
- ffrwythau a llysiau ffres, wedi'u rhewi ac mewn tun
- corbys ffres, sych ac mewn tun
- llaeth fformiwla babanod wedi'i wneud o laeth buwch
Gallwch hefyd defnyddio eich cerdyn i'w gasglu:
- fitaminau Cychwyn Iach - mae'r rhain yn eich cefnogi yn ystod beichiogrwydd a bwydo ar y fron
- diferion fitamin ar gyfer babanod a phlant ifanc - mae'r rhain yn addas o enedigaeth hyd at 4 oed
Am ragor o gyngor a gwybodaeth ar sut i wneud cais am Gychwyn Iach, ewch i:
Gwefan y GIG www.healthystart.nhs.uk