Beth yw Newid Hinsawdd?

- Mae newid hinsawdd yn disgrifio newidiadau i'r patrymau tywydd hirdymor. Prif achos newid hinsawdd yw newid tymheredd byd-eang. Mae popeth a wnawn sy'n cynnwys llosgi olew, glo, nwy naturiol (a elwir ar y cyd yn danwyddau ffosil), yn rhyddhau moleciwlau carbon i'r atmosffer gan godi ei dymheredd - dyma'r effaith tŷ gwydr.
- Mae newidiadau i'r systemau tywydd eisoes yn effeithio ar ble a sut y gall pobl fyw, hyd yn oed yn y DU. Ceir stormydd a glaw yn amlach ac yn fwy eithafol yn y gaeaf, a digwyddiadau gwres difrifol yn yr haf.
- Mae'r newid hinsawdd sy'n digwydd nawr yn ganlyniad i bethau a wnaethpwyd flynyddoedd yn ôl ac mae'n cyflymu. Gall yr hyn a wnawn nawr helpu i arafu newidiadau tymheredd yn y dyfodol.
Edrychwch ar y dudalen Adnodd i weld sut y gallwch helpu, a chael cefnogaeth, i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.