Toglo gwelededd dewislen symudol

Pam ddylwn i boeni?

A Green Question Mark
  • Cost Mae amhariadau sy'n deillio o effeithiau newid hinsawdd yn golygu y bydd costau byw, gwneud busnes a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gynyddu'n llawer cyflymach.
  • Bwyd Bydd digwyddiadau tywydd fel llifogydd a sychder, newidiadau anrhagweladwy i'r tymor tyfu, pwysau ar gyflenwadau dŵr i dyfu bwyd, mwy o blâu a chlefydau i gyd yn effeithio ar y cyflenwad bwyd.
  • Iechyd Caiff tymheredd newidiol amrediad eang o effeithiau ar iechyd, sy'n effeithio ar yr aelodau mwyaf bregus yn ein cymunedau, gan gynnwys yr henoed a'r ifanc iawn, yn bennaf. Mae diwrnodau tywydd poethach yn effeithio ar iechyd y galon a'r ymennydd; gall mwy o law yn y gaeaf wneud clefydau anadlol yn fwy difrifol. Hefyd, mae effeithiau pryder ar iechyd meddwl oherwydd effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cynnwys pryderon am ddiogelwch tai, pwysau costau byw, ac ansicrwydd economaidd.
  • Tir + Natur Bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein tirlun mewn sawl ffordd. Mae tywydd eithafol yn gwneud priddoedd yn fwy ansefydlog gan achosi tirlithriadau a dadwreiddiad coed. Ers 1994 mae bywyd gwyllt Cymru wedi lleihau o 20% gydag 18% o'r holl rywogaethau dan fygythiad o ddifodiant.
  • Cenedlaethau'r Dyfodol Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn etifeddu byd sy'n llawer mwy ansicr, peryglus a drud na'r un a fwynhawn heddiw. Bydd gweithredu nawr yn helpu i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.

Edrychwch ar y dudalen Adnodd i weld sut y gallwch helpu, a chael cefnogaeth, i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu