Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut fydd newid hinsawdd yn effeithio ar fy musnes?

Climate change - business 3

Efallai eich bod eisoes wedi sylwi ei bod yn anos rhedeg eich busnes oherwydd tywydd eithafol ac annisgwyl: efallai bod eiddo a stoc wedi cael eu difrodi, cyflenwadau ddim ar gael ar amser, neu staff yn methu dod i'r gwaith. Bydd cyflymu newid hinsawdd yn golygu bod hyn yn digwydd yn amlach ac yn fwy sydyn. Bydd hyn yn effeithio ar eich cynhyrchiant a'ch gallu i anrhydeddu cytundebau. Risg fasnachol yw risg hinsawdd: gweithredwch nawr i ddiogelu eich busnes rhag yr heriau hyn.

  • Cost Mae newid yn yr hinsawdd yn ffactor sy'n cyfrannu at wrthdaro dros adnoddau prin, gan gynnwys ynni, ac mae'n effeithio ar gadwyni cyflenwi ledled y byd. Mae'n ychwanegu at y gost o wneud busnes. · Yswiriant Masnachol Mae yswiriant yn newid i ddelio â risg hinsawdd. Gall rhai eiddo a gweithrediadau wynebu premiwm uwch, efallai na fydd eraill yn yswiriadwy. Ystyriwch ble mae eich busnes wedi'i leoli, meddyliwch am fyrhau eich cadwyni cyflenwi, a symud oddi wrth fodel cyflawni 'dim-ond-mewn-pryd' i atgyfnerthu eich risgiau yswiriadwy.
  • Cyfleoedd Gall newid hinsawdd gynnig cyfleoedd masnachol newydd, ond i sicrhau cytundebau bydd angen i chi ddangos eich bod yn rheoli risg hinsawdd i'ch busnes.
  • Ymrwymiadau carbon Mae llawer o gytundebau'r sector cyhoeddus eisoes yn gofyn am gynlluniau lleihau carbon ar gyfer tendrau llwyddiannus, ac mae busnesau masnachol yn gofyn fwyfwy am y rhain i ddiogelu eu henw da a'u buddsoddwyr.
  • Bydd lles staff yn cael ei effeithio gan newid yn y tymheredd. Rhaid i gynllunio iechyd a diogelwch y gweithlu baratoi ar gyfer hyn.

Edrychwch ar y dudalen Adnodd au i weld sut y gallwch helpu, a chael cefnogaeth, i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu