Yr hyn y mae Fast Track Powys yn ei gynnig

Drwy Fast Track Powys, rydym yn gweithio i wneud atal a chefnogi HIV yn fwy gweladwy, hawdd ei gyrchu, ac yn hygyrch ledled y sir.
Pecynnau hunan-brawf HIV am ddim
Gall preswylwyr ym Mhowys gael mynediad at brofion HIV ac STI cyfrinachol yn y cartref drwy'r gwasanaeth Profi a Phostiocenedlaethol :
Archebu prawf am ddim hhttps://www.ircymru.online/pecyn-profi-a-phostio-sti-cymru/
Allgymorth cymunedol a digwyddiadau
Rydym yn mynychu archfarchnadoedd lleol, a digwyddiadau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth, lleihau stigma, a hyrwyddo profion mewn amgylchedd cefnogol.
Gwybodaeth a mynediad at PrEP (proffylacsis cyn-gysylltiad)
Meddyginiaeth hynod effeithiol sy'n atal HIV, sydd bellach ar gael drwy glinigau dan arweiniad nyrsys ym Mhowys.
Rydym yn dod â gwasanaethau at galon ein cymunedau er mwyn sicrhau y gall pawb gael mynediad at gymorth yn gyfrinachol a heb farn.