PrEP Nawr Ar Gael ym Mhowys

Rydym yn falch o gadarnhau bod PrEP bellach ar gael yn lleol gan ein holl glinigau iechyd rhyw dan arweiniad nyrsys.
Sut i Gael Mynediad
Mae pob clinig drwy apwyntiad yn unig
I drefnu apwyntiad, ffoniwch: 02922 784417
Oriau llinell ffôn: Dydd Llun / Dydd Mercher / Dydd Gwener, 10:00-14:00
Gweithredir system frysbennu - bydd pob claf yn cael cynnig asesiad ffôn cychwynnol i benderfynu ar anghenion ac addasrwydd ar gyfer gofal dan arweiniad nyrsys.
Lleoliadau Clinig a Diwrnodau Apwyntiad
Y Drenewydd
- Ysbyty Sir Trefaldwyn, SY16 2DW
- 1af a'r 3ydd dydd Mawrth bob mis
Llanidloes
- Ysbyty Coffa Rhyfel Llanidloes, SY18 6HF
- 2il a'r 4ydd Dydd Mawrth
Llanfair-ym-Muallt
- Canolfan Iechyd a Gofal Glan Irfon , LD2 3DG
- 2il a'r 4ydd dydd Iau
Bronllys
- Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Bronllys, LD3 0LU
- 1af a'r 3ydd dydd Iau
Ble i Ddysgu Mwy
Fast Track Cymru https://fasttrack.wales
PrEP a Gwybodaeth AM HIV https://phw.nhs.wales/topics/sexual-health/
Tîm Diogelu Iechyd Powys E-bost: healthprotection@powys.gov.uk