Trwyddedau Meysydd Parcio
Trwyddedau Maes Parcio ar gyfer unrhyw faes parcio arhosiad hir
Mae parcio'n rhatach os ydych yn defnyddio mwy nag un maes parcio talu ac arddangos arhosiad hir yn rheolaidd. Gallwch ddefnyddio'r drwydded hon ym mhob un o'n meysydd parcio arhosiad hir.
Os wnewch chi lenwi ffurflen gais ar-lein ar gyfer eich cerbyd, ac yna wrth aros i'r drwydded gyrraedd, argraffwch dderbynneb a'i harddangos ar eich cerbyd am hyd at 14 diwrnod heb gosb, ar yr amod ei bod wedi'i harddangos yn glir.
I brynu neu adnewyddu trwydded maes parcio neu i gael trwydded barcio newydd llenwch un o'r ffurflenni isod:
Adnewyddu neu Ymgeisio am Drwydded Barcio Adnewyddu neu Ymgeisio am Drwydded Barcio
Cais am Drwydded Barcio Newydd Cais am Drwydded Barcio Newydd
Ydych chi ond yn parcio mewn un maes parcio?
Os mai dim ond mewn un maes parcio arhosiad hir penodol y byddwch yn parcio (efallai ei fod yn agos at waith neu gartref), efallai y byddai Tocyn Tymor Maes Parcio Sengl yn fwy addas i chi. [link to season ticket page]
Gwneud Newidiadau i'ch trwydded
Wrth wneud newidiadau i fanylion eich trwydded barcio, bydd tâl gweinyddu o £25 yn cael ei godi a rhaid i chi ddychwelyd eich trwydded bresennol i Ddepo Kirkhamsfield, Ffordd Y Trallwng, Y Drenewydd, SY16 3AF cyny bydd y drwydded barcio newydd yn cael ei chyhoeddi.
Ble y gallwch ddefnyddio trwydded barcio
I ddod o hyd i feysydd parcio arhosiad hir lle gellir defnyddio trwyddedau parcio, edrychwch ar ein tudalen dod o hyd i faes parcio.
Pa mor hir fydd eich trwydded yn parhau
Mae trwyddedau ar gael am 1, 3, 6 neu 12 mis taliadau ar wahân
Os nad ydych angen eich trwydded bellach
Os nad ydych angen eich trwydded bellach, mae ad-daliadau ar gael ar gyfer pob mis cyflawn sydd heb ei ddefnyddio ar y drwydded. Mae tâl gweinyddu o £25.Dylid anfon y drwydded ac ad-daliad at: Depo Kirkhamsfield, Ffordd Y Trallwng, Y Drenewydd, SY16 3AF.
Trwyddedau sydd wedi dod i ben
Ni fydd unrhyw negeseuon atgoffa'n cael eu hanfon cyn i'ch trwydded ddod i ben, felly dylech wneud nodyn o hyn yn eich dyddiadur.