Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Er bod amodau'r tywydd yn parhau'n oer, byddwn yn graeanu'r prif ffyrdd a llwybrau ledled Powys yn ôl yr angen.

Cyflogaeth â Chymorth

supported employment

Cysylltu â Gwaith

Rhaglen cymorth cyflogaeth am ddim i bobl ym Mhowys a Cheredigion sy'n wynebu rhwystrau i ddod o hyd i waith neu aros yn y gwaith yw Cysylltu â Gwaith. Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth y DU ac mae'n cael ei chyflwyno gan Gyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion.

Ar gyfer pwy y mae'r rhaglen

Gall Cysylltu â Gwaith gefnogi:

  • Pobl anabl
  • Pobl â chyflyrau iechyd hirdymor
  • Pobl ag anghenion iechyd meddwl
  • Pobl niwroamrywiol
  • Rhai sy'n gwella neu sydd mewn perygl o golli eu swydd
  • Pobl ifanc 16-24 oed, gan gynnwys y rhai ag AAAA
  • Unigolion sy'n wynebu rhwystrau cymdeithasol, ariannol neu wledig

Pa gymorth sydd ar gael

Rydym yn cynnig:

  • Cymorth un-i-un gyda chynghorydd cyflogaeth
  • Cymorth i ddod o hyd i waith, hyfforddiant neu wirfoddoli addas
  • Cysylltiadau â chyflogwyr a gwasanaethau lleol
  • Cefnogaeth cyn dechrau yn y swydd a chymorth parhaus unwaith eich bod mewn swydd
  • Gwybodaeth gwbl ddwyieithog a hygyrch

Sut i gael mynediad at y gwasanaeth

Gallwch ymuno â Cysylltu â Gwaith drwy:

  • Cwblhau ffurflen hunan-atgyfeirio ar-lein
  • Cael eich hatgyfeirio gan weithiwr proffesiynol (meddyg teulu, gweithiwr iechyd, yr Adran Gwaith a Phensiynau, ysgol, coleg neu sefydliad gwirfoddol)
  • Mynychu un o'n digwyddiadau galw heibio neu alw heibio cymunedol
  • Cymorth i gyflogwyr

Rydym yn gweithio gyda busnesau o bob maint i hyrwyddo recriwtio cynhwysol. Gall cyflogwyr gael mynediad at:

  • Cyngor ar recriwtio cynhwysol
  • Canllawiau arfer da
  • Cymorth i gysylltu ag ymgeiswyr posibl

Digwyddiadau a diweddariadau

Bydd gwybodaeth am ddigwyddiadau lansio, sesiynau galw heibio a sesiynau cyflogwyr yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen hon wrth i'r rhaglen gael ei chyflwyno.

Cysylltwch â ni Am ragor o wybodaeth am Cysylltu â Gwaith: E-bostiwch:  jobsupport@powys.gov.uk

Ffurflen Gais Cysylltu â Gwaith Ffurflen Gais Cysylltu â Gwaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu