Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Er bod amodau'r tywydd yn parhau'n oer, byddwn yn graeanu'r prif ffyrdd a llwybrau ledled Powys yn ôl yr angen.

Pennaeth Cyfreithiol a Swyddog Monitro

Head of legal

Gweld ein pecyn recriwtio rhyngweithiol ar gyfer y rôl hon. Mae'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y swydd wag, ein cyngor a'r sir

Fersiwn hygyrch o'r pecyn (PDF, 1 MB)

Swydd Ddisgrifiad - Pennaeth Cyfreithiol a Swyddog Monitro (PDF, 296 KB)

Ceisiadau

I wneud cais, anfonwch CV (dim mwy na 2 tudalen o A4) diweddar gyda datganiad personol i'w ategu (dim mwy na 4 tudalen o A4), syn amlinellu sut y mae eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn diwallu gofynion y rôl. A wnewch chi sicrhau eich bod yn nodi pa rôl rydych yn gwneud cais ar ei chyfer os gwelwch yn dda. 

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein isod i gyflwyno eich cais erbyn 01/02/2026. Os bydd gennych unrhyw broblemau gyda'r broses lanlwytho, cysylltwch â recruitment@powys.gov.uk

Aymgeisio nawr Gwnewch gais i ymuno â'n Tîm Arwain Corfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg.  Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai yn y Saesneg. 

Amserlen

  • Dyddiad cau: 1 Chwefror 2026
  • Dyddiad Creu Rhestr Fer: 12/13 Chwefror 2026
  • Dyddiad Cyfweld: 23 Chwefror 2026

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, e-bostiwch recruitment@powys.gov.uk i drefnu hyn.

Mae Cyngor Sir Powys yn ymrwymo i ddiogelwch y data personol y byddwch yn ei ddarparu mewn cysylltiad â'ch diddordeb yn y rolau hyn a'ch ceisiadau. I ddeall sut y byddwn yn trin eich data personol, gwelwch ein hysbysiad preifatrwydd.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu