Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd ac Ymwybyddiaeth AMR
Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn fygythiad cynyddol lle mae heintiau yn stopio ymateb i wrthfiotigau. Yng Nghymru, mae Nodau Gwella AMR a HCAI 2025-27 (Iechyd Cyhoeddus Cymru/Llywodraeth Cymru) yn gosod targedau clir ar gyfer:
- Lleihau defnydd diangen o wrthfiotigau
- Cryfhau Atal a Rheoli Heintiau
- Gwella hylendid dwylo ym mhob lleoliad gofal
Fel staff a hyrwyddwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae eich ymarfer o ddydd i ddydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at y nodau hyn. Mae'r camau gweithredu allweddol yn cynnwys:
- Defnydd darbodus o wrthfiotigau - dim ond pan fo'n angenrheidiol yn glinigol ac yn dilyn canllawiau lleol
- Mae arferion llym o ran Atal a Rheoli Heintiau - hylendid dwylo, Cyfarpar Diogelu Personol, a threfn gofal diogel yn lleihau lledaeniad haint
- Monitro ac adrodd - helpu i olrhain heintiau sy'n gwrthsefyll a chefnogi rhaglenni stiwardiaeth lleol
- Addysgu preswylwyr a theuluoedd - esbonio pam efallai na fydd angen gwrthfiotigau bob amser
Pam mae'n bwysig:
- Amddiffyn preswylwyr a chleifion rhag heintiau sydd ag ymwrthedd
- Cefnogi gofal mwy diogel mewn cartrefi, lleoliadau cymunedol ac ysbytai
- Alinio eich gwaith â blaenoriaethau cenedlaethol a fframweithiau gwella Iechyd Cyhoeddus Cymru / Llywodraeth Cymru
Adnoddau ac arweiniad: Gwyliadwriaeth Gwrthficrobaidd - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae hyd yn oed gweithredoedd bach bob dydd; Hylendid dwylo, dilyn protocolau Atal a Rheoli Heintiau, a defnyddio gwrthfiotigau yn ofalus, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddiogelwch cleifion ac iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
