Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Bydd llinellau ffôn yr adran Treth Cyngor ac Adfer ar gau ddydd Mercher 4 Mawrth 2026 oherwydd hyfforddiant tîm.

Rheoli Gwaed a Hylifau Corfforol yn Ddiogel

Amcan

Esbonio pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau cywir wrth reoli a glanhau colledion gwaed a hylifau corfforol.

Rhagor o wybodaeth: Llawlyfr Atal Haint - Tudalen 26

Pam mae rheoli gwaed a hylifau corfforol yn ddiogel yn bwysig?

Gallai gwaed a hylifau corfforol (e.e. wrin, ysgarthion, chŵyd) gynnwys niferoedd mawr o ficro-organeddau, gan gynnwys bacteria a feirysau. Mae'n rhaid i staff sydd wedi'u hyfforddi ar y weithdrefn gywir ymdrin â cholledion ar unwaith.
Mae ymdrin â cholledion n amlygu staff i berygl o haint; mae'n rhaid gwisgo cyfarpar diogelu personol priodol bob amser felly.

Ymdrin â Cholledion Gwaed eu Hylif Corfforol wedi'i Staenio â Gwaed

  • Yr arfer gorau yw defnyddio pecyn colledion gwaed.
  • Os nad yw'n addas i'w ddefnyddio ar ddeunyddiau dodrefnu meddal, pren heb ei drin neu garpedi, golchwch gyda:
    • Glanedydd PH-niwtral a dŵr cynnes,
    • Peiriant siampŵ carpedi, neu
    • Lanhawr ager.
  • Dylid cael gwared ar eitemau sydd wedi'u halogi'n drwm gyda gwaed/hylifau corfforol na ellir eu glanhau yn ddigonol yn ddiogel.
  • Paratowch ddadheintydd seiliedig ar glorin ar 10,000 o rannau fesul miliwn (ppm) o glorin sydd ar gael.
  • Gwisgwch ffedog a menig untro (a mwgwd os oes perygl o sblasio).
  • Awyrwch yr ardal (agorwch ffenestri/drysau) gan y gallai tarthau gael eu rhyddhau.
  • Gorchuddiwch y golled gyda llieiniau papur.
  • Arllwyswch ddadheintydd dros y llieiniau a gadewch nhw am 5-10 munud o amser cyswllt (neu yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd).
  • Cliriwch y llieiniau a'r golled i ffwrdd, gan gael gwared arno fel pe bai'n wastraff heintus.
  • Glanhewch yr ardal gyda weips glanedydd untro neu lanedydd a dŵr cynnes gan ddefnyddio clwt untro.
  • Gwaredwch glytiau a chyfarpar diogelu personol fel pe bai'n wastraff heintus.
  • Golchwch eich dwylo yn drylwyr gyda sebon hylif a'u sychu'n llwyr.

Ymdrin â Cholledion Hylifau Corfforol (Pan Nad Oes Unrhyw Waed yn Bresennol)

  • Peidiwch â defnyddio clorin yn uniongyrchol ar wrin - bydd tarthau gwenwynig yn cael eu rhyddhau.
  • Defnyddiwch becyn colledion hylifau corfforol, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.
  • Paratowch dadheintydd seiliedig ar glorin ar 1,000 ppm o glorin sydd ar gael.
  • Ailadroddwch yr un camau fel yr amlinellir ar gyfer colledion gwaed (gorchuddio, diheintio, caniatáu amser cyswllt, glanhau, gwaredu'n ddiogel, hylendid dwylo).

Defnydd o Ddadheintydd i Reoli Colledion Gwaed a Hylifau Corfforol (SICPs) yn Ddiogel

  • Cyfarpar Diogelu Personol: Gwisgwch y cyfarpar diogelu personol cywir bob amser. Defnyddiwch gyfarpar diogelu'r wyneb os oes perygl o sblasio.
  • Paratoi Dadheintydd:
    • Darperir rhai dadheintyddion seiliedig ar glorin fel tabledi.
    • Defnyddiwch botel wanedu i gymysgu'r cyfaint o ddŵr a nodir i sicrhau'r crynodiad cywir.
  • Peryglon gwanedu anghywir:
  • Rhy wan → efallai na fydd yn lladd feirysau.
  • Rhy gryf → gallai ddifrodi arwynebau ac offer.
  • Oes Silff a Storio:
    • Mae hydoddiannau clorin wedi'u gwanhau yn llai effeithiol ar ôl 24 awr.
    • Cofnodwch y dyddiad a'r amser pan fydd yr hydoddiant yn cael ei baratoi.
    • Gwaredwch unrhyw hydoddiant ar ôl 24 awr.
  • Defnydd:
    • Sicrhewch amser cyswllt o 5-10 munud i ladd micro-organeddau yn effeithiol.
    • Peidiwch byth â rhoi dadheintydd seiliedig ar glorin yn uniongyrchol ar wrin, gan y gallai tarthau gwenwynig gael eu rhyddhau.
  • Glanhau Amgen ar gyfer Arwynebau Meddal:
  • Gall clorin ddifrodi deunydd dodrefnu a charpedi.
  • Yn hytrach, defnyddiwch beiriant glanhau carpedi, glanedydd â dŵr cynnes, neu lanhawr ager.
  • Archwiliadau Cynnal a Chadw:
  • Archwiliwch becynnau colledion, weips, a chynhyrchion diheintio clorin yn rheolaidd i sicrhau eu bod o fewn y dyddiad dod i ben.

 

Cyfeiriadau a Dolenni i Ganllawiau Pellach:
 
 Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau mewn Cartrefi Gofal Iechyd Cyhoeddus Cymru / y GIG: Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau mewn Cartrefi Gofal (CH IPCM) - Iechyd Cyhoeddus Cymru 
NIPCM: 8 - Colledion gwaed a hylifau corfforol

Rhannwch y dudalen hon