Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisiadau Dosbarth Chweched Powys - Medi 2026

Mae'r ffordd y mae darpariaeth dosbarth chweched Powys yn cael ei darparu a'i threfnu ym Mhowys yn newid ym mis Medi 2026. Mae ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd ar sail ranbarthol i wella dewis a phrofiad dysgwyr.

Edrychwch yn ofalus ar Brosbectws Chweched Powys i'ch cefnogi wrth gwblhau'r cais hwn. Bydd angen i chi weithio'n agos gyda'ch Pennaeth Blwyddyn/Arweinydd Cynnydd a rhieni/gofalwyr i sicrhau eich bod yn dewis opsiynau sydd ar gael i chi yn eich rhanbarth.

Mae'r cynnig cwricwlwm wedi'i lunio gan arweinwyr ysgolion ac wedi'i lywio gan arolygon dysgwyr gyda'r nod o ateb y galw ac ehangu'r dewis. Ein bwriad yw i'r cynnig aros yr un fath trwy gydol y broses ymgeisio; fodd bynnag, mae'n destun newid yn seiliedig ar alw dysgwyr ac argaeledd staffio. Byddwn yn ymdrechu i gadw newidiadau i'r lleiafswm.

Bydd y cynnig cwricwlwm yn amrywio yn dibynnu ar yr ysgol gartref, gan fod pob rhanbarth wedi teilwra eu dull i ddiwallu anghenion dysgwyr orau. Felly, mae'n hanfodol bod ymgeiswyr yn defnyddio'r dolenni isod i edrych yn fanwl ar eu cynnig ysgol a gweithio gyda staff ysgol (pennaeth blwyddyn/arweinydd cynnydd/uwch arweinwyr) i ddeall pa bynciau sydd ar gael cyn gwneud cais. Mae'r holl gyrsiau yn gywir ar adeg eu llwytho I'r safle. Sylwch nad yw cyrsiau sy'n denu nifer fach o ddysgwyr yn warantedig o gael eu rhedeg.

Defnyddiwch y Ffurflen Microsoft sy'n gysylltiedig isod i gyflwyno ceisiadau. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw  Dydd Gwener 27 Mawrth 2026.

Dolen i'r ffurflen gais: https://forms.office.com/e/TAXQVF1Ayu

Prosbectws Chweched Powys: 

Chweched Powys Sixth Prosbectws (PDF, 747 KB)

Dolenni Cynnig y cwricwlwm yn ôl ysgol:

Rhanbarth Chweched 1 - Ysgol Maesydderwen (PDF, 173 KB)

Rhanbarth Chweched 2 - Aberhonddu (PDF, 151 KB)

Rhanbarth Chweched 2 - Crughywel (PDF, 150 KB)

Rhanbarth Chweched 2 - Gwernyfed (PDF, 149 KB)

Rhanbarth Chweched 2 a 3 - Ysgol Calon Cymru (PDF, 156 KB)

Rhanbarth Chweched 3 - Bro Hyddgen (PDF, 153 KB)

Rhanbarth Chweched 3 - Y Drenewydd (PDF, 154 KB)

Rhanbarth Chweched 3 - Llanidloes (PDF, 142 KB)

Rhanbarth Chweched 4 - Bro Caereinion (PDF, 150 KB)

Rhanbarth Chweched 4 - Llanfyllin (PDF, 150 KB)

Rhanbarth Chweched 4 - Y Trallwng (PDF, 150 KB)

Rhanbarth Chweched 5 - Cymraeg (PDF, 146 KB)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu