Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Condomau a Dulliau Atal Cenhedlu Brys

Pa mor effeithiol yw condoms?

Mae condoms gwryw yn effeithiol 86% - 98% o'r amser i atal beichiogrwydd, cyn belled â'u bod yn cael eu rhoi ymlaen yn gywir, eu bod o fewn eu dyddiad, bod nod barcud neu farc CE arnynt a'u bod wedi cael eu storio'n gywir, a'u bod heb rwygo. Mae iddynt fantais ychwanegol sef eu bod yn dy ddiogelu yn erbyn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Beth ddylwn i wneud os bydd condom yn torri?

Mae dulliau atal cenhedlu brys ar gael i fenywod sydd wedi cael rhyw heb ddiogelwch.  Os bydd condom yn rhwygo neu'n dod i ffwrdd, dylet gael dull atal cenhedlu brys cyn gynted ag sy'n bosibl. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn galw dulliau atal cenhedlu brys yn bilsen bore wedyn, ond gellir ei chymryd hyd at 72 awr ar ôl cael rhyw heb ddiogelwch - er mae'n fwy effeithiol os cymerir hi'n fuan.  Hyd yn oed ar ôl 72 awr mae dewisiadau eraill ar gael a allai fod yn effeithiol hyd at 5 diwrnod ar ôl cael rhyw heb ddiogelwch, felly paid â gadael i amser dy atal rhag mynd i chwilio am help.

Mae tabledi atal cenhedlu brys ar gael o'r mannau canlynol:

  • Fferyllwyr Stryd Fawr / Fferyllfeydd 
  • Dy feddyg
  • Clinigau iechyd rhywiol

*Mae mathau eraill o atal cenhedlu brys ar ôl 72 awr ar gael o'r mannau hyn hefyd.