Y Gofrestr Etholiadol
Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru
i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol megis sicrhau mai pobl sy'n gymwys i bleidleisio'n unig sy'n gwneud hynny. Fe'i defnyddir at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith hefyd, megis canfod troseddau (e.e. twyll), cysylltu â phobl i drefnu gwasanaeth rheithgor a cheisiadau gwirio credyd.
Gellir gweld y gofrestr etholiadol rhwng 10:00 a 16:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, drwy apwyntiad yn unig.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma