Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwnewch gais

Os ydych yn profi difrod, colled neu niwed i'ch hunan neu'ch eiddo, efallai y byddwch yn dymuno cyflwyno hawliad am iawndal yn ein herbyn. 
 

Gwneud hawliad yn ein herbyn

Os ydych wedi dioddef anaf personol, difrod i eiddo neu golled ariannol a'ch bod yn credu i ni fod yn esgeulus, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen (PDF) [363KB] hon, gan nodi:

  • amgylchiadau llawn y digwyddiad, gan gynnwys y dyddiad a'r amser os yn berthnasol
  • y rheswm pam yr ydych yn ein dal yn gyfrifol
  • disgrifiad o'r anaf, difrod i eiddo neu golled ariannol
  • union leoliad y digwyddiad


Mae dwy ffordd y gallwch symud ymlaen gyda'ch hawliad.

  • Un dewis yw hawlio trwy eich yswiriwr eich hunan
  • Y dewis arall yw hawlio'n uniongyrchol yn ein herbyn.

Os ydych yn dymuno gwneud hawliad am iawndal ar gyfer unrhyw golled, difrod, esgeulustod, neu loes sydd rywsut yn gyfrifoldeb arnom ni yn eich barn chi, yna bydd ein tîm yswiriant yn delio â'r mater hwn.

Y sail dros eich hawliad yw bod yna fai ar ein rhan ac mae angen i chi brofi i ni fod yn esgeulus o fewn cyfraith sifil.

Nid oes hawl awtomatig i iawndal; nid yw digwyddiad anffodus o angenrhaid yn golygu y gallwn cael ein dal yn gyfrifol.

 

Gweithdrefn ar gyfer hawliadau yn ein herbyn ni

Yn ôl y gyfraith, mae gofyn i ni gydnabod unrhyw hawliad o fewn 21 diwrnod a gwneud penderfyniad ar atebolrwydd o fewn 90 diwrnod. Mae rhai mathau o hawliadau'n cael eu trin yn fewnol ond bydd rhai yn cael eu trosglwyddo i weithwyr trafod hawliadau penodedig, neu i'n hyswirwyr, i'w trafod ar ein rhan.

Bydd hawliadau yn cael eu harchwilio cyn gynted ag sy'n bosibl bob tro.

Mae'r gweithdrefnau sy'n ymwneud â chyfraith sifil, fodd bynnag, yn caniatau cyfnod (tri mis fel arfer) i archwilio a chyngori er mwyn penderfynu a fu unrhyw fai ar ein rhan ai peidio (h.y. derbyn neu wrthod yr hawliad).

Dylech felly dderbyn llythyr o fewn tri mis o dderbyn neu wrthod eich hawliad.

Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw wybodaeth / ffotograffau y teimlwch a all helpu wrth ystyried eich achos, anfonwch unrhyw wybodaeth o'r fath wrth gyflwyno eich hawliad.

Gall hyn gynnwys ffotograffau o'r nam neu eiddo sydd wedi'i ddifrodi fel sy'n briodol.  Bydd yr holl ffotograffau gwreiddiol yn cael eu dychwelyd unwaith y bydd copiau wedi'u cymryd. Gwnewch yn siwr eich bod yn dyfynnu'r rhif hawlio pryd bynnag y byddwch yn cysylltu.

Rhannu data

Ceisiwch fod yn ymwybodol ein bod yn rhannu gwybodaeth ar hawliadau a hawlwyr gyda'n hyswirwyr, Cymdeithas Yswirwyr Prydain ac awdurdodau lleol eraill er mwyn canfod ac atal twyll.

Os yw'r digwyddiad yn ymddangos fel ei fod yn cynnwys parti eraill, er enghraifft, damwain a ddigwyddodd ar dir preifat, oedd yn cynnwys cwmni arall megis cwmni cyfleustodau, neu gontractwr, gellir cyflwyno eich hawliad ymlaen i'r parti hwnnw.

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma