Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofrestru adeilad ar gyfer seremonïau sifil

Byddwch angen trwydded os ydych eisiau cynnal seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil ar eich eiddo. Unwaith mae trwydded wedi'i chaniatáu, mae'n ddilys am dair blynedd.

Sut i wneud cais

Image of wedding rings

Lawr lwythwch y ffurflen gais a nodiadau cyfarwyddyd (PDF) [134KB] o'r dudalen hon.

Wrth anfon y ffurflen yn ôl, dylech gynnwys:

  • eich tâl (na ellir ei ad-dalu)
  • Un copio gynlluniau'r safle gyda'r ystafell(oedd) wedi'i amlygu.
  • Asesiad Risg Tân diweddar

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pan fyddwn wedi derbyn eich dogfennau, byddwn yn rhoi hysbysiad swyddogol ar ein gwefan yn nodi bod cais wedi'i wneud am drwydded. Yna, bydd gan y cyhoedd 21 diwrnod i wrthwynebu rhoi trwydded.

Bydd eich Asesiad Risg Tân yn cael ei anfon i Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru i gael eu sylwadau. Byddwn yn archwilio'r eiddo i sicrhau ei fod yn addas.

Os bydd eich cais yn mynd trwy'r holl gamau hyn, bydd y drwydded yn cael ei chyhoeddi.

Os na fyddwch wedi clywed oddi wrthym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.

Os nad ydych yn cytuno gyda'n penderfyniad, cysylltwch â Rheolwr y Gwasanaeth Cofrestru

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, bydd y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn rhoi cyngor i chi.

Cyswllt

  • Ebost: registrars@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827468
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Cofrestru, Y Gwalia, Ffordd Ieithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Rhowch sylwadau am dudalen yma