Toglo gwelededd dewislen symudol

Cael cyngor bywyd gwyllt: Rheoli chwyn ymledol brodorol ac anfrodorol

invasive weeds

invasive weeds
Mae'r Cyngor Sir yn rheoli planhigion sy'n broblem ar dir sy'n eiddo i ni neu ar dir yr ydym yn gyfrifol amdano, megis ymylon ffyrdd.  Perchnogion tir unigol sy'n gyfrifol am reoli'r planhigion ar eu tir eu hunain, gan gynnwys ar hyd glannau cyrsiau dwr.

Mae dau fath cyffredinol o blanhigion sy'n peri problemau:

  • Chwyn niweidiol
  • Planhigion ymledol anfrodorol

Chwyn Niweidiol

Mae pum rhywogaeth wedi'u cynnwys yn Neddf Chwyn 1959: Llysiau'r biswail (Senecio jacobaea), Marchysgallen (Cirsium vulgare), Ysgallen y maes (Cirsium arvense), Tafolen y cwn (Rumex obtusifolius) a Thafolen grych (Rumex crispus). Mae'r rhain oll yn frodorol i Brydain ac nid yw'n anghyfreithlon os yw'r rhain yn tyfu ar eich tir. Fodd bynnag, gellir rhoi rhybuddion gorfodi i berchnogion tir neu ddeiliaid er mwyn atal unrhyw un o'r rhywogaethau hyn rhag lledaenu ar dir amaethyddol, yn enwedig tir a ddefnyddir ar gyfer pori neu gynhyrchu gwair neu silwair.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i adnabod a rheoli chwyn niweidiol ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi llunio Cod Ymarfer i Atal a Rheoli Lledaenu Llysiau'r Biswail ac mae'n gyfrifol am ddelio â chwynion penodol am Lysiau'r Biswail.

Defnyddiwch ein Ffurflen Rhoi Gwybod i ddweud wrthym am chwyn niweidiol neu blanhigion ymledod anfrodorol ar ymylon ffyrdd.

Chwyn Ymledol

Planhigion ymledol anfrodorol yw'r rhywogaethau hynny sydd wedi sefydlu eu hunain yn y gwyllt ar ôl cael eu cyflwyno i Brydain fel planhigion gardd addurniadol.  Yn ol Deddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981 mae'n drosedd i blannu neu achosi unrhyw rywogaeth a nodir yn Atodlen 9 y Ddeddf i dyfu yn y gwyllt.

Mae planhigion ymledol anfrodorol ac anifeiliaid yn effeithio arnom i gyd.  Amcangyfrifir fod rhywogaethau ymledol anfrodorol yn costio £1.7 biliwn bob blwyddyn i economi Prydain (er enghraifft mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth, pysgota, diwydiannau datblygu a dwr).  Maen nhw hefyd yn: 

  • achosi problemau iechyd
  • cynyddu perygl o lifogydd
  • difrodi eiddo
  • arwain at ddirywiad mewn bioamrywiaeth frodorol

Y planhigion ymledol anfrodorol mwyaf cyffredin ac eang ym Mhowys yw Llysiau'r Dial, Efwr Enfawr a Ffromlys Chwarennog.  Ceir hefyd planhigion dwr ymleodol anfrodorol mewn rhai rhannau o Bowys sef Alaw Grych (Curly Waterweed) a Briweg Corsydd Awstralia (Australian Swamp Stonecrop).

Defnyddiwch ein Ffurflen Rhoi Gwybod i ddweud wrthym am chwyn niweidiol neu blanhigion ymledod anfrodorol ar ymylon ffyrdd.

Llysiau'r Dial

Os oes gennych Llysiau'r Dial yn tyfu ar eich tir, chi sy'n gyfrifol am wneud yn siwr nad yw'n ymledu ar dir cyfagos. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi llunio cyfarwyddyd defnyddiol ar sut i reoli neu gael gwared ar Lysiau'r Dial.  Efallai hefyd y byddwch am gael help arbenigol gan gontractwr profiadol gyda chymwysterau priodol i'w drin.  Lle mae'r planhigion yn ymledu dros ffiniau perchnogion gwahanol, bydd angen i'r holl perchnogion/deiliaid gydweithio i ddatrys y broblem. Nid yw'r cyngor yn cynnig gwasanaeth i reoli rhywogaethau anfrodorol sy'n tyfu ar dir preifat ond rydym yn barod i weithio gyda pherchnogion tir cyfagos i reoli Llysiau'r Dial lle mae hefyd yn tyfu ar ein tir.

I gael gwybodaeth ar adnabod a rheoli Llysiau'r Dial a rhywogaethau ymledol anfrodorol eraill, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.  Bydd y wybodaeth gan y Gymdeithas Garddwriaethol Frenhinol hefyd yn ddefnyddiol i arddwyr

Defnyddiwch ein Ffurflen Rhoi Gwybod i ddweud wrthym am chwyn niweidiol neu blanhigion ymledod anfrodorol ar ymylon ffyrdd.