Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Cael cyngor bywyd gwyllt: Coed

Wildlife_enquiries_Trees_01

Mae coetiroedd a choed yn rhan bwysig o dirwedd Powys.  Yn ogystal â choetiroedd llydanddail collddail brodorol mae yna ddarnau mawr o dir sydd wedi'u gorchuddio â choetiroedd coniffer masnachol sy'n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, cwmniau coedwigaeth preifat a pherchnogion tir.

Cyn cwympo coeden ar eiddo preifat, efallai y byddwch am ymweld â'n Gorchmynion Cadw Coed a Choed mewn Ardaloedd Cadwraeth sicrhau nad yw'r coed yn destun Gorchymyn Diogelu Coed neu mewn ardal gadwraeth.

Y cyngor sy'n gyfrifol am gynnal coed ar ei dir ei hun ac mae'n gallu cymryd camau i reoli'r coed ar hyd priffyrdd cyhoeddus lle mae yna berygl i ddefnyddwyr y ffyrdd.  Os oes gennych bryder am un o goed y cyngor neu am goeden sydd ar ffordd gyhoeddus gallwch roi gwybod i ni ar dudalennau Priffyrdd.  I gael gwybodaeth am goed wrth ymyl hawliau tramwy cyhoeddus ewch i dudalennau Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Cyngor

Cyfrifoldeb y perchennog neu ddeilydd y tir yw rheoli coed ar dir preifat.  Nid oes gan y cyngor swyddog coed penodol ac felly nid ydym yn gallu darparu cyngor arbenigol am iechyd coed nac am goed peryglus.  Os oes gennych bryder am goeden sydd gennych neu am goed eich cymydog (nad yw'n gyfrifoldeb y cyngor) dylech ofyn am gyngor arbenigwr coed (tyfwr coed).  Dewiswch un sy'n gyfarwydd â'r gofynion cyfreithiol i amddiffyn ystlumod ac adar sy'n nythu.

Coed sydd wedi'u gwarchod

Gorchmynion Cadw Coed a Choed mewn Ardaloedd Cadwraeth

Bydd coed o fewn Ardaloedd Cadwraeth trefi a phentrefi, neu a effeithir gan Orchmynion Cadw Coed (GCC) angen caniatâd y Gwasanaethau Cynllunio cyn y gellir gwneud unrhyw waith arnynt.

A fyddech gystal â nodi nad yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol yn uniongyrchol am unrhyw waith sy'n effeithio ar goed a gwrychoedd syn cael ei wneud gan :

  • gwmniau prif wasanaethau (trydan, telegyfathrebu, dwr, nwy)
  • perchnogion tir preifat ar eu tir eu hunain (gan gynnwys wrth ymyl priffyrdd neu dudalennau Hawliau Tramwy Cyhoeddus
  • Llywodraeth Cymru e.e. prif gynlluniau ffyrdd.

Help gyda choed

Y cyngor sy'n gyfrifol am gynnal coed ar ei dir ei hun ac mae'n gallu cymryd camau i reoli'r coed ar hyd priffyrdd cyhoeddus lle mae yna berygl i ddefnyddwyr y ffyrdd. Cyfrifoldeb y perchennog neu ddeilydd y tir yw rheoli coed ar dir preifat.

  • Coed ar hyd priffyrdd cyhoeddus

Os oes gennych bryder am un o goed y cyngor neu goeden ar hyd priffordd gyhoeddus, gallwch ddweud wrthym ni amdano trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Os yw'r goeden wedi syrthio ar y ffordd fawr, ffoniwch 0345 6076060 ar frys i roi gwybod am y digwyddiad.

  • Coed sy'n creu rhwystr ar hawl tramwy

Os bydd coeden neu gangen yn cwympo dros hawl tramwy cyhoeddus, cyfrifoldeb perchennog y goeden yw symud y gangen neu'r goeden.

Cysylltwch â ni os ydych yn gweld coeden neu gangen yn creu rhwystr ar hawl tramwy. Byddwn yn cysylltu â pherchennog y goeden a gofyn iddynt symud y rhwystr o fewn amser rhesymol. Os na fyddant yn gwneud hyn, byddwn yn symud y gangen/coeden ac yn adfer ein costau oddi wrth y perchennog.

  • Coed sydd wedi'u difrodi neu goed afiachus

Nid oes gennym swyddog coed penodedig, ac felly ni allwn ddarparu cyngor arbenigol am iechyd coed neu goed peryglus.

Os oes gennych bryder am eich coeden eich hunan neu goeden eich cymydog (nad yw'n goeden y cyngor), dylech ofyn am gyngor arbenigol oddi wrth lawfeddyg coed profiadol ac arbenigol (tyfwr coed). Dewiswch un sy'n gyfarwydd gyda'r gofynion cyfreithiol i ddiogelu ystlumod ac adar sy'n nythu.

Mae tirfeddianwyr a phreswylwyr yn gyfrifol am reoli coed ar dir preifat.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu