Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cael cyngor bywyd gwyllt: Coed

Wildlife_enquiries_Trees_01

Mae coetiroedd a choed yn rhan bwysig o dirwedd Powys.  Yn ogystal â choetiroedd llydanddail collddail brodorol mae yna ddarnau mawr o dir sydd wedi'u gorchuddio â choetiroedd coniffer masnachol sy'n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, cwmniau coedwigaeth preifat a pherchnogion tir.

 

Cyn cwympo coeden ar eiddo preifat efallai y byddwch am gysylltu â'n hadran gynllunio i sicrhau nad yw'r goed yn destun Gorchymyn Diogelu Coed neu mewn ardal gadwraeth.

 

Y cyngor sy'n gyfrifol am gynnal coed ar ei dir ei hun ac mae'n gallu cymryd camau i reoli'r coed ar hyd priffyrdd cyhoeddus lle mae yna berygl i ddefnyddwyr y ffyrdd.  Os oes gennych bryder am un o goed y cyngor neu am goeden sydd ar ffordd gyhoeddus gallwch roi gwybod i ni ar dudalennau Priffyrdd.  I gael gwybodaeth am goed wrth ymyl hawliau tramwy cyhoeddus ewch i dudalennau Hawliau Tramwy Cyhoeddus

 

Cyngor

Cyfrifoldeb y perchennog neu ddeilydd y tir yw rheoli coed ar dir preifat.  Nid oes gan y cyngor swyddog coed penodol ac felly nid ydym yn gallu darparu cyngor arbenigol am iechyd coed nac am goed peryglus.  Os oes gennych bryder am goeden sydd gennych neu am goed eich cymydog (nad yw'n gyfrifoldeb y cyngor) dylech ofyn am gyngor arbenigwr coed (tyfwr coed).  Dewiswch un sy'n gyfarwydd â'r gofynion cyfreithiol i amddiffyn ystlumod ac adar sy'n nythu.

 

Coed sydd wedi'u gwarchod

Bydd angen caniatâd gan Wasanaethau Cynllunio cyn y gellir gwneud unrhyw waith ar goed o fewn Ardaloedd Cadwraeth trefi a phentrefi neu sy'n cael eu gwarchod gan Orchmynion Cadw Coed.  Os ydych am wybod os yw coeden o fewn ardal treftadaeth adeiledig neu os yw'n cael ei gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed, neu os ydych am roi gwybod am ddifrod i goeden sy'n cael ei gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed, cysylltwch â'r adran Cynllunio a Rheoli Datblygu.

A fyddech gystal â nodi nad yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol yn uniongyrchol am unrhyw waith sy'n effeithio ar goed a gwrychoedd syn cael ei wneud gan :

  • gwmniau prif wasanaethau (trydan, telegyfathrebu, dwr, nwy)
  • perchnogion tir preifat ar eu tir eu hunain (gan gynnwys wrth ymyl priffyrdd neu dudalennau Hawliau Tramwy Cyhoeddus
  • Llywodraeth Cymru e.e. prif gynlluniau ffyrdd.

 

Help gyda choed

Y cyngor sy'n gyfrifol am gynnal coed ar ei dir ei hun ac mae'n gallu cymryd camau i reoli'r coed ar hyd priffyrdd cyhoeddus lle mae yna berygl i ddefnyddwyr y ffyrdd. Cyfrifoldeb y perchennog neu ddeilydd y tir yw rheoli coed ar dir preifat.

  • Coed ar hyd priffyrdd cyhoeddus

Os oes gennych bryder am un o goed y cyngor neu goeden ar hyd priffordd gyhoeddus, gallwch ddweud wrthym ni amdano trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Os yw'r goeden wedi syrthio ar y ffordd fawr, ffoniwch 0345 6076060 ar frys i roi gwybod am y digwyddiad.

  • Coed sy'n creu rhwystr ar hawl tramwy

Os bydd coeden neu gangen yn cwympo dros hawl tramwy cyhoeddus, cyfrifoldeb perchennog y goeden yw symud y gangen neu'r goeden.

Cysylltwch â ni os ydych yn gweld coeden neu gangen yn creu rhwystr ar hawl tramwy. Byddwn yn cysylltu â pherchennog y goeden a gofyn iddynt symud y rhwystr o fewn amser rhesymol. Os na fyddant yn gwneud hyn, byddwn yn symud y gangen/coeden ac yn adfer ein costau oddi wrth y perchennog.

  • Coed sydd wedi'u difrodi neu goed afiachus

Nid oes gennym swyddog coed penodedig, ac felly ni allwn ddarparu cyngor arbenigol am iechyd coed neu goed peryglus.

Os oes gennych bryder am eich coeden eich hunan neu goeden eich cymydog (nad yw'n goeden y cyngor), dylech ofyn am gyngor arbenigol oddi wrth lawfeddyg coed profiadol ac arbenigol (tyfwr coed). Dewiswch un sy'n gyfarwydd gyda'r gofynion cyfreithiol i ddiogelu ystlumod ac adar sy'n nythu.

Mae tirfeddianwyr a phreswylwyr yn gyfrifol am reoli coed ar dir preifat.

  • Coed sydd wedi'u hamddiffyn

Bydd coed o fewn Ardaloedd Cadwraeth trefi a phentrefi neu goed sy'n destun Gorchmynion Gwarchod Coed (GGC) angen caniatâd oddi wrth y Gwasanaethau Cynllunio cyn y gellir cynnal unrhyw waith arnynt.

Lawrlwythwch y ffurflen gais am waith coed: bydd unrhyw waith i goed yn amodol ar Orchymyn Diogelu Coed (TPO) a/neu hysbysiad o waith arfaethedig i goed mewn Ardaloedd Cadwraeth (CA)

I wybod a yw coeden o fewn ardal treftadaeth adeiliedig neu'n destun GGC, neu i ddweud wrthym am ddifrod i goeden gyda GGC, cysylltwch â Chynllunio a Rheoli Adeiladu.

Noder nad oes gan Gyngor Sir Powys gyfrifoldeb uniongyrchol dros waith sy'n effeithio ar goed a gwrychoedd a gyflawnir gan:

  • gwmnïau cyfleustodau (trydan, telegyfathrebu, dwr, nwy)
  • tirfeddianwyr preifat ar eu tir eu hunain (gan gynnwys tir wrth ymyl priffordd neu hawl tramwy cyhoeddus)
  • Llywodraeth Cynulliad Cymru, e.e. cynlluniau ffyrdd o bwys