Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beicio i bawb o bob gallu ym Mhowys

image of couple with bike
 Os nad ydych yn feiciwr rheolaidd, gallwch logi beiciau arbenigol a gwahanol o ganolfannau mewn lleoliadau amlwg yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan a Drovers Cycles  yn Y Gelli Gandryll. Beth bynnag fo'ch anghenion, byddwch yn gallu mwynhau beicio ar hyd lonydd prydferthaf y wlad. 

Mae gan y ddau safle staff hyfforddedig a fydd yn gallu helpu gydag unrhyw gwestiynau, dangos i chi sut i'w defnyddio, rhoi gwybodaeth am lwybrau beicio diogel a sicrhau eich bod yn cael profiad beicio perffaith. Ewch i'r gwefannau unigol i weld yr amseroedd agor a'r prisiau. Fe fyddem yn argymell i chi ffonio'r ganolfan o flaen llaw i sicrhau bod rhywun ar gael i'ch helpu. Mae gan y ddau leoliad gyfleusterau i'r anabl hefyd fel toiledau, amrywiaeth o ategolion, maes parcio a chyfoeth o wybodaeth leol. Mae yna ardal lle gallwch roi cynnig ar y beic cyn ei logi. Rydym wedi dewis y tri beic amgen hyn yn ofalus oherwydd y gallai pob un o'r tri chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag beicio a gwneud cefn gwlad yn fwy hygyrch i bawb.

image of man with bike
 
image of specialist bike

Llun: Nigel Forster

Beiciau Arbenigol

Llogi beiciau llaw - mae beic llaw ar gael i'w logi yn y Drovers Cycles. Mae'r 'Excelerator' yn feic ymarferol ar gyfer amrywiaeth eang o anghenion. Mae'n gymharol hawdd i fynd arno, yn sefydlog ac yn rhoi profiad beicio gwych. 

Llogi beiciau Ochr yn Ochr - Bydd y 'Twister' yn addas ar gyfer y rhan fwyaf sydd angen mynediad hawdd ac mae'n berffaith ar gyfer y profiad seiclo sy'n cael ei rannu. Mae ar gael ar y Drovers Cycles. Gallai'r pedalau fod yn sefydlog ar ochr y teithiwr ar gyfer beicwyr nad ydynt yn gallu pedalu.

Llogi beiciau trydan - Mae'r ddau safle yn cynnig y dewis o logi beiciau trydan os ydych chi angen help i ddringo bryniau serth.  Os ydych am grwydro cefn gwlad gyda llai o ymdrech, yna beic trydan yw'r dewis perffaith. Mae Drovers Holidays hefyd yn cynnig amrywiaeth o feiciau mynydd trydan.  

Llogi tandem - Os ydych yn chwilio am brofiad beicio i'w rannu gyda theulu neu ffrindiau, tandem yw'r dewis perffaith i grwydro cefn gwlad. Maent hefyd yn ddelfrydol ar gyfer y rhai nad ydynt yn hyderus neu nad ydynt yn medru reidio beic ar eu pennau eu hunain.