Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Os nad ydych chi'n wladolyn Prydeinig

Os nad ydych chi, neu os nad yw eich partner yn wladolyn Prydeinig, cysylltwch â'r Cofrestrydd Arolygol i gael rhagor o wybodaeth oherwydd gallai'r rheolau fod yn wahanol.

Dylai parau sy'n destun rheolaeth fewnfudo ac sy'n dymuno priodi neu gofrestru partneriaeth sifil yn y Deyrnas Unedig gael gwybodaeth o wefan Asiantaeth Ffiniau'r DU

Dim ond mewn rhai swyddfeydd cofrestru dynodedig y gall pobl sy'n destun rheolaeth fewnfudo gyhoeddi Hysbysiad Priodas/Hysbysiad Partneriaeth Sifil. Ym Mhowys, mae'r swyddfa dan sylw yn Llandrindod. Mae swyddfeydd cofrestru dynodedig eraill yn Amwythig, Aberystwyth, Abertawe, Caerdydd a Chaerloyw.

Dan y gyfraith, rhaid i Swyddogion Cofrestru roi gwybod am unrhyw briodas y credant sydd wedi'i threfnu dim ond at ddiben osgoi goblygiadau deddfau mewnfudo.