Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Casgliadau Amgueddfa Powysland Y Lanfa

Mae casgliadau'r Amgueddfa, a ddechreuwyd gan y Powysland Club yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn trafod archeoleg a hanes cymdeithasol Sir Drefaldwyn. Mae'r arddangosfeydd yn yr oriel gyntaf ar y llawr gwaelod yn darlunio hanes Camlas Sir Drefaldwyn, Rheilffyrdd Cambrian a Rheilffordd Stem Llanfair Caereinion i'r Trallwng ynghyd â threftadaeth amaethyddol y sir.

Lleolir casgliadau archeolegol yr Amgueddfa ar y llawr cyntaf. Mae'r arddangosfa yn dechrau gyda chyflwyniad ar y Powysland Club a chasgliadau'r Amgueddfa, gydag arddangosfeydd cronolegol i ddilyn o'r Oes Cerrig, trwy'r Oes Efydd a'r Oes Haearn, hyd at y Rhufeiniaid. 

Yn yr Oriel Hanes Cymdeithasol, sydd hefyd ar y llawr cyntaf, rhennir y casgliad yn themâu ac mae'r arddangosfa yn cynnwys hanes gwaith cwper; Rhydd-ddeiliaid Sir Drefaldwyn; carcharorion rhyfel Ffrengig yn ystod y Rhyfeloedd Napoleanaidd; y cartref Fictoraidd, Cymdeithasau Cyfeillgar, Cyfraith a Threfnu a'r ddau Ryfel Byd.


ArtUK - Mae'n cynnwys lluniau o filoedd o amgueddfeydd a sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled y wlad.

Mae Amgueddfa Powysland wedi ychwanegu delweddau o'i gasgliad cyfan o 15 o ddarluniau olew ac acrylig at y wefan Your Paintings.  Mae ein casgliad yn cynnwys gwaith gan M. Wyke, Egbert van Heemskerck yr hynaf, G. James, Lever, M. J. Davies, Noah Frisby a W Gill.

Image of Art UK - your paintings

Image of the People's Collection Wales logo

Gwefan arbennig ar gyfer hanes Cymru a'i phobl yw gwefan Casgliad y Werin Cymru (PCW) ac mae'n rhad ac am ddim i'w defnyddio. Gallwch ddarganfod hanes Cymru trwy gyfraniadau gan bobl a sefydliadau o bob cwr o'r wlad - gallwch ychwanegu eich hanes eich hunan hyd yn oed!

Mae Casgliad y Werin Cymru yn cynrychioli dull arloesol o gasglu, dehongli a thrafod treftadaeth ddiwylliannol Cymru.