Rhoi gwybod am bryder gyda hawl tramwy
Gallwch roi gwybod am broblem ar hawl tramwy gyhoeddus ym Mhowys, naill ai drwy:
Defnyddio ein porth mapio ar-lein
- Yma fe welwch fap sy'n dangos yr holl Hawliau Tramwy Cyhoeddus, tir mynediad agored a rhywfaint o gelfi cefn gwlad yn y sir.
- I roi gwybod am broblem, mewngofnodwch yn gyntaf, yna dewiswch eitem o'r ddewislen 'Rhoi gwybod am broblem'.
- Yna, edrychwch drwy'r map ac ychwanegwch eich adroddiad gan gynnwys unrhyw luniau yn uniongyrchol at y map
- Rhaid i chi gofrestru eich manylion i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn (sydd ar wahân i brif gyfrif 'Fy Mhowys' y Cyngor.
- Bydd cyfrif yn eich galluogi i olrhain cynnydd eich holl adroddiadau i ni.
Drwy e-bost at rights.of.way@powys.gov.uk
- Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl gan gynnwys lluniau
- Mae'n ein helpu i adnabod a lleoli'r broblem os ydych chi'n gwybod rhif y llwybr. Gallwch ddod o hyd i rif y llwybr gan ddefnyddio'r map rhyngweithiol hawliau tramwy cyhoeddus map rhyngweithiol hawliau tramwy cyhoeddus. Nid oes angen cyfrif i weld y wybodaeth hon. Chwyddwch i mewn at ardal a chliciwch i ddewis hawl tramwy cyhoeddus. Bydd rhif y llwybr yn cael ei arddangos mewn ffenestr wybodaeth (e.e. cod plwyf/rhif llwybr/rhif dolen 101/396/1).
Gan fod llwybrau a thir o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cael eu rheoli'n uniongyrchol ganddynt, os hoffech chi roi gwybod am broblem o fewn y Parc Cenedlaethol, gwnewch hynny yma: https://rightsofway.beacons-npa.gov.uk