Gofyn am newid i'r Gofrestr Tir Comin
Newidiadau:
Mae Adran 13 Deddf Cofrestru Tiroedd Comin yn rhoi grym cyfyngedig i'r Awdurdod Cofrestru ddiwygio'r wybodaeth a geir yn y cofrestri.
Adran Tir:
Gellir gwneud newidiadau dan adran 13(a) - pan fydd y tir yn peidio â bod yn dir comin neu'n lawnt pentref; ac Adran 13(b) - pan ddaw'r tir yn dir comin neu'n lawnt pentref.
O 6 Medi 2007 ymlaen yng Nghymru, sylwch na fydd yn bosibl tynnu'r tir o'r cofrestri lle mae'r cais dan S13(a) yn digwydd o ganlyniad i unrhyw bwerau statudol (e.e. cyfnewid tir neu orchymyn pryniant gorfodol.)
Adran Perchnogaeth:
Gellir gwneud newidiadau pan fydd Eiddo wedi'i gofrestru yng Nghofrestrfa Tir EM.
Nid yw cofrestru perchnogaeth yn y cofrestri tir comin yn dystiolaeth derfynol bod yr eiddo yn gyfreithiol eiddo I chi. Mae cofrestriad Eiddo yn y Gofrestrfa Tir yn disldi cofnod yn y cofrestri tir comin. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar statws cyfreithiol y tir fel tir comin cofrestredig.
Adran Hawliau:
Gellir gwneud newidiadau pan fydd hawliau pori wedi'u dosrannu, eu diddymu neu eu rhyddhau, eu hamrywio neu eu trosglwyddo.
Pa bryd bynnag y bydd tir gyda hawliau cysylltiedig yn cael ei werthu fesul llain, rhaid i'r hawl comin gael ei ddosrannu ar sail pro-rata yn unol â'r arwynebedd (yr erwau).
Ni ellir gwerthu hawliau comin cysylltiedig, fel hawliau pori, ar wahân i'r tir (gelwir hyn yn wahanu.) Mae Adran 9 Deddf Tiroedd Comin 2006 yn gwahardd gwahanu hawliau comin o 28 Mehefin 2005 ymlaen.
Dylid gwneud cais i ddiwygio Adran Hawliau'r gofrestr trwy ddefnyddio Ffurflen Statudol CR 19 (Diwygiedig), "Cais i ddiwygio cofrestr mewn perthynas â hawliau tir comin." Ar hyn o bryd, does dim ffi'n daladwy am wneud cais trwy Ffurflen CR 19.
Deddf Tiroedd Comin 2006:
Mae Deddf 2006 yn cydnabod bod yn Neddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 ddiffygion ac mae'n darparu mecanwaith i ddisodli a gwella'r system cofrestru gyfredol.
Bydd Cyngor Sir Powys yn parhau i gadw'r Cofrestri Tiroedd Comin a'r Lawntiau Tref neu Bentref a sefydlwyd dan Ddeddf 1965 a bydd gofyn iddo ddiweddaru'r cofrestri yma er mwyn darparu cofnod cwbl gywir a fydd yn sail i reoli tir comin yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch wefan Llywodraeth Cymru.
Contacts
Feedback about a page here