Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Campau'r Ddraig

Image of the Dragon Sport logo

Menter Chwaraeon Cymru yw Campau'r Ddraig sy'n cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol ac sydd wedi'i lunio i gynnig cyfleoedd chwaraeon hwyliog i blant 7 - 11 oed.
Image of the Dragon Sport logo

Mae Campau'r Ddraig:

  • wedi cael eu haddasu i weddu i oedran, maint, gallu, lefel sgiliau a phrofiad y chwaraewyr
  • yn defnyddio rheolau syml, offer a meysydd chwarae llai, gan gynnwys hyfforddiant difyr
  • yn paratoi chwaraewyr ar gyfer gemau oedolion
  • yn ddiogel ond dal yn sialens.

Trwy gydweithio'n agos gydag ysgolion a chlybiau chwaraeon cymunedol mae Campau'r Ddraig yn cael effaith ddramatig ar nifer y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon trwy annog plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon sydd wedi'u trefnu. 

Mae'r cynllun yn ehangu diddordebau plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn cynnwys plant sydd heb y cyfleoedd hynny y tu allan i'w gwersi ymarfer corff yn yr ysgol. 

Mae Campau'r Ddraig yn cyflwyno hyfforddiant, cyfle i ddatblygu sgiliau a chystadlaethau priodol i blant gan ddefnyddio fersiynau o'r gemau oedolion sy'n addas i'w hanghenion a lefelau sgil. 

Yr wyth camp sy'n rhan o'r cynllun yw:

  • Rygbi
  • Athletau
  • Criced
  • Pel-droed
  • Hoci
  • Pel-rwyd
  • Tennis
  • Golff

Er mai gwella darpariaeth chwaraeon i blant 7 -11 oed ledled Cymru yw prif ffocws Campau'r Ddraig, mae'r cynllun hefyd yn canolbwyntio ar recriwtio rhieni a gwirfoddolwyr eraill fel cynorthwywyr i gefnogi datblygu clybiau ar ôl ysgol a chlybiau chwaraeon cymunedol.  Gwelwch ein tudalen dod yn hyfforddwr chwaraeon os hoffech gymryd rhan.

Gall eich Cydlynydd gynnig cyngor a hyfforddiant cam wrth gam i helpu ysgolion, clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr gyflwyno Campau'r Ddraig. Cynigir yr help hwn i ysgolion a chlybiau trwy raglen dreiglo, a gytunir mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, ymgynghorwyr AG, cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol, ysgolion a darparwyr chwaraeon lleol eraill. 

Gellir cyflwyno Campau'r Ddraig hefyd gan ganolfannau hamdden, grwpiau ieuenctid a mudiadau gwirfoddol ac unffurf.