Toglo gwelededd dewislen symudol

5x60

Image of the 5x60 logo

Menter Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chwaraeon Cymru yw 5x60 a'i nod yw annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn 60 munud o ymarfer corff, 5 gwaith yr wythnos.
Image of the 5x60 logo

I gyflawni hyn, mae yna Swyddog 5x60 ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru i oruchwylio'r prosiect. Mae'r disgyblion eu hunain yn cymryd perchnogaeth o'r gweithgaredd sydd ar gynnig ar yr amserlen a gallant ddylanwadu ar pryd y cynhelir y gweithgaredd, er enghraifft, yn ystod awr ginio neu ar ôl  ysgol.

Gall y gweithgareddau sydd ar gynnig yn ysgolion Powys amrywio o chwaraeon cystadleuol traddodiadol megis pêl-droed a hoci, i weithgareddau hamdden anffurfiol megis tennis bwrdd, badminton a sboncen.

Mae gweithgareddau antur yn yr awyr agored ar gynnig hefyd, megis saethyddiaeth, beicio mynydd, syrffio a dringo creigiau. Darperir ar gyfer cyfnodau o wyliau hefyd, gydag Wythnosau Hwyl yn y Gwyliau Haf, Gwersylloedd Golff y Pasg a Gwersylloedd Dawnsio i enwi dim ond rhai.

Hefyd, rôl y Swyddog 5x60 yw recriwtio disgyblion hyn a myfyrwyr dosbarth chwech i helpu cyflwyno'r sesiynau. Yn gyfnewid am eu hymroddiad i'r prosiect, mae cyrsiau hyfforddi'n cael eu trefnu a'u rhannol ariannu ar eu cyfer, sy'n rhoi cyfle iddynt ennill profiad gwerthfawr a chymwysterau galwedigaethol.

Mae pob swyddog hefyd yn gweithio i ddarparu cymaint o gysylltiadau â chlybiau ag sy'n bosibl i wneud y rhaglen yn gynaliadwy ac annog cyfranogiad gydol oes.