Chwaraeon yn Ysgolion 5x60
Menter Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chwaraeon Cymru yw 5x60 a'i nod yw annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn 60 munud o ymarfer corff, 5 gwaith yr wythnos.
I gyflawni hyn, mae yna Swyddog 5x60 ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru i oruchwylio'r prosiect. Mae'r disgyblion eu hunain yn cymryd perchnogaeth o'r gweithgaredd sydd ar gynnig ar yr amserlen a gallant ddylanwadu ar pryd y cynhelir y gweithgaredd, er enghraifft, yn ystod awr ginio neu ar ôl ysgol.
Gall y gweithgareddau sydd ar gynnig yn ysgolion Powys amrywio o chwaraeon cystadleuol traddodiadol megis pêl-droed a hoci, i weithgareddau hamdden anffurfiol megis tennis bwrdd, badminton a sboncen.
Mae gweithgareddau antur yn yr awyr agored ar gynnig hefyd, megis saethyddiaeth, beicio mynydd, syrffio a dringo creigiau. Darperir ar gyfer cyfnodau o wyliau hefyd, gydag Wythnosau Hwyl yn y Gwyliau Haf, Gwersylloedd Golff y Pasg a Gwersylloedd Dawnsio i enwi dim ond rhai.
Hefyd, rôl y Swyddog 5x60 yw recriwtio disgyblion hyn a myfyrwyr dosbarth chwech i helpu cyflwyno'r sesiynau. Yn gyfnewid am eu hymroddiad i'r prosiect, mae cyrsiau hyfforddi'n cael eu trefnu a'u rhannol ariannu ar eu cyfer, sy'n rhoi cyfle iddynt ennill profiad gwerthfawr a chymwysterau galwedigaethol.
Mae pob swyddog hefyd yn gweithio i ddarparu cymaint o gysylltiadau â chlybiau ag sy'n bosibl i wneud y rhaglen yn gynaliadwy ac annog cyfranogiad gydol oes.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma