Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau Iechyd yn eich Canolfan Hamdden - Cadw'n Heini, Cadw'n Iach

Ydych chi'n 50 oed neu'n hyn a gyda diddordeb mewn bod yn fwy heini?

Efallai nad ydych yn teimlo'n hyderus am ymarfer corff, neu efallai nad ydych wedi gwneud unrhyw ymarfer corff ers tipyn ac mae'n anodd gwybod le i ddechrau? Neu efallai eich bod yn weddol heini beth bynnag, a'ch bod am bara i fod felly.

Os hynny, bydd y sesiynau Cadw'n Heini, Cadw'n Iach yn ddelfrydol i chi!

Image of a leisure centre

Gallwch weithio ar eich cyflymder eich hun, gyda'n hyfforddwyr profiadol yn eich cynghori.  Byddwn yn addasu'r sesiynau ar gyfer eich anghenion, felly ni fyddwch fyth yn cael eich gorfodi i wneud gormod.

Bydd lluniaeth am ddim yn dilyn pob sesiwn.

Beth am roi tro arni, a gwneud ymarfer corff yn rhan o'ch bywyd bob dydd?

Cysylltwch â'ch Canolfan agosaf i gael rhagor o wybodaeth a rhestr o amseroedd y dosbarthiadau.