Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynlluniau Iechyd yn eich Canolfan Hamdden - Mynediad at Ffitrwydd

Rydym am roi cyfle i bawb ym Mhowys i gael mynediad at ein cyfleusterau ffitrwydd a hamdden, a dyna pham rydym wedi cyflwyno ein Cardiau Mynediad at Ffitrwydd ar gyfer pobl sydd wedi'u cofrestru'n anabl, unigolion sy'n gyn-aelodau o'r lluoedd arfog, neu unigolion sy'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Lwfans Byw i Bobl Anabl
  • Pensiwn analluogrwydd Rhyfel / Pensiwn y Fyddin (ar gyfer anafiadau/ar sail feddygol)

Bydd cerdyn Mynediad Ffitrwydd yn caniatáu gostyngiad o 50% ar fynediad i ystafelloedd ffitrwydd a phyllau nofio Powys yn ystod sesiynau cyhoeddus.

Ni ellir defnyddio'r cerdyn i logi cwrt nac unrhyw weithgareddau sydd angen eu llogi. 

Cysylltwch â'ch Canolfan Hamdden agosaf i gael rhagor o wybodaeth.