Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Gwasanaethau Cefn Gwlad : Rhybudd Preifatrwydd

Beth yw Gwybodaeth Bersonol?

Gall gwybodaeth bersonol fod yn unrhyw beth sy'n ymwneud â pherson byw y gellir ei ddefnyddio i wybod pwy ydynt. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys eich enw a'ch manylion cysylltu.

 

Sut a pham mae'r Gwasanaethau Cefn Gwlad a Hamdden Awyr Agored yn defnyddio gwybodaeth bersonol?

Mae gan y tîm Gwasanaethau Cefn Gwlad a Hamdden Awyr Agored nifer o rwymedigaethau cyfreithiol, ac mae'n bosibl y bydd angen iddynt ddefnyddio gwybodaeth bersonol i gyflawni'r dyletswyddau yma.

Mae'n un o rwymedigaethau'r Gwasanaeth i sicrhau a diogelu hawl y cyhoedd i ddefnyddio a mwynhau hawliau tramwy cyhoeddus. Efallai y bydd angen i ni ddefnyddio data personol i gyflawni'r ddyletswydd hon wrth gysylltu â meddiannwr y tir sy'n cael ei effeithio gan hawl tramwy cyhoeddus. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd angen i ni wneud hyn er mwyn i ni wneud gwaith cynnal a chadw ein hunain a gweithio gyda deiliad y tir i sicrhau bod llwyr ar agor i'w ddefnyddio. Mae'n bosibl hefyd y cawn adroddiadau am broblemau ar lwybrau gan aelodau o'r cyhoedd, a defnyddir y wybodaeth honno i gyfrannu gwybodaeth ar gyfer ein rhaglenni gwaith yn y dyfodol.

Mae gan y tîm rwymedigaeth gyfreithiol hefyd i gynnal y Cofrestri Tir Comin a Lawntiau Tref neu Bentref. Mae'r Cofrestri'u hunain yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth bersonol - enwau a chyfeiriadau - sydd ar gael i'r cyhoedd ei gweld.

Mae adneuon cyfreithiol a chofrestri ceisiadau o ran hawliau tramwy cyhoeddus, tir comin a Lawntiau Tref neu Bentref yn ein meddiant y mae'n rhaid iddynt fod ar gael i'r cyhoedd eu gweld, ac mae'r rhain yn cynnwys enwau a chyfeiriadau.

O bryd i'w gilydd, rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, e.e. pan fyddwn yn derbyn cais i wyro hawl tramwy cyhoeddus, neu ddiwygio camgymeriad neu hepgoriad ar gofrestri cyfreithiol hawliau tramwy cyhoeddus, Tir Comin neu lawntiau Tref neu Bentref. Pan fydd hynny'n digwydd, mae'n bosibl y bydd angen rhannu'r wybodaeth gyda'r cyhoedd yn ehangach, fel rhan o'r broses ymgynghori, wrth adrodd ar benderfyniadau a phrosesau eraill (e.e. gwrandawiad) neu mewn cyflwyniad i'r Arolygiaeth Gynllunio.

Mae gennym gyfrifoldebau eraill rydym yn eu cyflawni oherwydd eu bod yn dasgau cyhoeddus er lles y cyhoedd, ac mae'r rhain yn aml yn cynnwys defnyddio gwybodaeth bersonol. Er enghraifft, rydym yn darparu cyngor am reoli tir comin ac yn cysylltu ag aelodau o'r cyhoedd, tirfeddianwyr, porwyr ac eraill i helpu i ddatrys eu problemau. Mae'r Cyngor yn berchen ar ardaloedd o dir ac yn eu rheoli ac yn ymgymryd â chyfrifoldebau cyffredinol tuag at aelodau o'r cyhoedd sy'n eu defnyddio.

 

Gyda phwy allem ni rannu'r data personol?

Os oes angen i ni rannu gwybodaeth bersonol i wneud ein gwaith, neu i gynorthwyo Asiantaethau eraill i gyflawni eu rolau, yna ni fyddwn yn rhannu ond y wybodaeth honno yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol i sicrhau hyn, a dim mwy na hynny. Efallai y bydd angen i ni rannu gwybodaeth gydag amrywiaeth o bobl neu sefydliadau, gan gynnwys:

  • Awdurdodau lleol eraill;
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;
  • Cyfoeth Naturiol Cymru;
  • Llywodraeth Cymru;
  • Yr Heddlu neu'r Llysoedd;
  • Cynghorau Trefn neu Gymuned;
  • Timau gwirfoddolwyr sy'n gwneud gwaith cynnal a chadw;
  • Cwmnïau statudol (e.e. cwmnïau wy neu ddŵr);
  • Grwpiau defnyddwyr llwybrau, e.e. fel rhan o ymgynghoriad;
  • Contractwyr neu fusnesau, i'w galluogi i gyflenwi'r gwaith neu'r deunyddiau cytunedig
  • Y cyhoedd yn ehangach, fel rhan o ymgynghoriad neu broses benderfynu gyhoeddus;
  • Asiantaethau eraill sy'n bartneriaid.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y modd y bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei storio a'i diogelu, pa mor hir y byddwn yn ei chadw, a'ch hawliau chi:

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar ein gwefan yn tudalen preifatrwydd neu cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor, Neuadd y Sir, Llandrindod, Ffôn 01597 826400 neu e-bost information.compliance@powys.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu