Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Addysg wedi'i chyllido yn y Blynyddoedd Cynnar

 

image of pre school children
 Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n dymuno sicrhau bod pob rhiant a gofalwr yng Nghymru yn gallu manteisio ar ddysgu rhan amser i'w plant yn y blynyddoedd cynnar, a hynny am ddim o ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed.

Mae'r manylion isod yn dangos pryd fydd eich plentyn yn dod yn gymwys am 5 tymor o ddarpariaeth cyn-ysgol ran amser wedi'i ariannu: 

Os ganwyd eich plentyn rhwng:

  • 1 Ebrill a 31 Awst - Tymor yr Hydref wedi ei ben-blwydd yn 3 oed
  • 1 Medi a 31 Rhagfyr - Tymor y Gwanwyn wedi ei ben-blwydd yn 3 oed
  • 1 Ionawr a 31 Mawrth - Tymor yr Haf wedi ei ben-blwydd yn 3 oed

 

Rhaid i bob darparwr gyflawni a chadw at set o feini prawf, gan gynnwys cymarebau staffio a chymwysterau, er mwyn sicrhau bod ansawdd a chyfleoedd y dysgu yn debyg, lle bynnag y bo'r ddarpariaeth. Bydd Tîm Cyfnod Sylfaen Powys yn cynorthwyo'r lleoliadau cofrestredig, a'r AGGCC (Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru) ac Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Ei Mawrhydi (ESTYN) yn ei arolygu. Bydd y cyllid ar gyfer y lleoedd i blant 3 a 4 oed yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r darparwr.

Mae'n rhaid i leoliadau gofal plant diweddaru eu gwybodaeth bob 6 mis i bara i fod yn fyw ar y system, felly efallai bydd rhai lleoliadau yn eich ardal chi sydd ddim yn ymddangos ar y system - felly mae croeso i chi gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r hyn ry'ch chi'n chwilio amdano.

Gweld rhestr o leoliadau cymeradwy yma Darparwyr Blynyddoedd Cynnar

 

Pa ddarpariaeth alla' i fynd â'm plentyn iddyn nhw?

Gall rhieni a gofalwyr ddewis anfon eu plentyn i hyd at 2 o leoliadau cymeradwy, cyn belled ag y bydd lle ar gael yno. Bydd pob plentyn sy'n gymwys yn gallu derbyn hyd at 10 awr yr wythnos o Addysg Blynyddoedd Cynnar wedi'i chyllido.

 

Sut y galla' i drefnu lle?

I wneud cais am le yn y lleoliad rydych chi wedi'i ddewis, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gofrestru (ar gael o'r lleoliad rydych wedi'i ddewis) a chadarnhau cymhwysedd, h.y. trwy Dystysgrif geni, i'r lleoliad ei ddilysu.

Nid yw'r ddarpariaeth yma ar gyfer plant 3 a 4 oed yn orfodol - nid oes gofyn I blant fynychu'r lleoliad. Ond unwaith y bydd rhiant wedi penderfynu ei fod am gadw lle i'w blentyn yno, yna bydd disgwyl i'r plentyn fynychu. Os yw'r rhieni/gofalwyr yn dewis peidio â defnyddio'r 10 awr cyfan, gellir cynnig yr amser i blant eraill.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, gwelwch ein gwybodaeth am dderbyniadau neu gysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Powys.
 

Cyswllt

Rhowch sylwadau am dudalen yma