Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwirio cymhwysedd ar gyfer gwasanaethau gofal

Ydw i'n gallu cael help?

Mewn argyfwng byddwn bob amser yn gweithredu neu'n sicrhau y bydd gwasanaeth arall ar gael i roi cymorth brys.  (Os bydd argyfwng yn codi y tu allan i'r oriau gwaith arferol, defnyddiwch ein gwasanaeth tu allan i oriau gwaith).

Trwy ofyn i ni am help, bydd rhaid i ni wneud asesiad i weld beth yw eich anghenion a pha help y gallwn ei gynnig.  Rydym yn galw hyn yn 'asesiad cyswllt / cyffredinol'.

Pan fyddwn wedi dod i'ch adnabod chi a'ch amgylchiadau (trwy'r asesiad) byddwn yn ystyried:

  • a ydych yn gallu gwneud penderfyniadau a dewisiadau
  • a oes angen eich diogelu rhag eich hunain neu eraill
  • a ydych yn gallu dod i ben a gwneud pethau bob dydd; a ydych yn gallu gofalu am eich hunain (golchi, coginio, bwyta, mynd o gwmpas ayb) a rheoli'r cartref.
  • ydych chi angen help i fwynhau bywyd cymdeithasol, teuluol a chymunedol.

Bydd rhaid penderfynu wedyn beth fyddai'r perygl i chi os na fydd help ar gael, a bydd lefel y cymorth yn dibynnu ar lefel y risg.  Efallai bod hyn yn swnio'n clinigol ond mae'n rhaid i ni ddilyn y rheolau a sicrhau bod pawb yn cael tegwch.

Mewn geiriau eraill, byddwn yn pryderu os:

  • nad ydych yn gallu gwneud pethau bob dydd i'ch cadw chi'n annibynnol.
  • rydych yn ei chael hi'n anodd dod i ben. e.e. rydych chi (neu ofalwr) mewn perygl o gael anaf neu mae perygl y bydd y trefniadau presennol ar yr aelwyd yn chwalu.
  • rydych wedi cael eich camdrin neu esgeuluso neu mae perygl o hynny.
  • mae eich bywyd mewn perygl mewn rhyw ffordd. 

Bydd pwy bynnag sy'n gwneud eich asesiad yn penderfynu os ydych chi'n gallu cael help ac yn esbonio'u penderfyniad i chi.  Os ydych chi'n gymwys, fe wnawn drefnu help i chi.

Bydd eich Rheolwr Gofal yn llenwi  i chi.

Bydd y cynllun hwn yn nodi'n union pa help fydd ar gael i chi a phwy fydd yn eich helpu chi.  Byddwch yn cael copi o'r cynllun ac fe wnawn drefnu dyddiad i'w adolygu er mwyn gwneud yn siwr eich bod yn cael yr help angenrheidiol.

Os byddwn yn penderfynu nad oes perygl 'allweddol' neu 'sylweddol' i'ch annibyniaeth, ni fyddwn yn gallu cynnig unrhyw gymorth arferol tymor hir i chi, ond gallwn eich cyfeirio at wasanaethau eraill.

Beth os nad ydym yn gallu helpu - ry'ch chi ddim yn gymwys i dderbyn help?

Os nad oeddech chi'n gallu cael help a bod eich anghenion yn newid, holwch am asesiad arall.

Os ydych chi angen help ond nid yw'n bosibl i ni wneud hynny, fe wnawn rhoi gwybodaeth am wasanaethau y gallwch eu defnyddio.  Mae'n bosibl y bydd angen i chi benderfynu a ydych am dalu am wasanaeth gan fusnes preifat (ar gyfer pethau megis glanhau, siopa, cadw ty, cyfarpar, gofal personol).

Mae grwpiau gwirfoddol yn cynnig rhai gwasanaethau gyda grantiau fel cymhorthdal.

Er ein bod ni'n gweithio ochr yn ochr a Gwasanaethau Iechyd Powys, rhannau eraill o'r cyngor a'r Gwasanaeth Budd-daliadau, a gyda gwasanaethau gwirfoddol a phreifat, cofiwch fod y rhain i gyd yn wasanaethau ar wahan ac nid ydynt yn gyfrifoldeb Gwasanaethau Gofal Oedolion.

Beth os nad ydych yn cytuno a'n penderfyniad ar p'un ai y byddwch yn derbyn help neu beidio?

Os nad ydych yn cytuno a'r penderfyniadau ry'n ni'n eu gwneud am eich anghenion neu'r gwasanaethau ry'n ni'n eu cynnig i chi, esboniwch wrth y sawl sy'n gwneud eich asesiad gyda chi.

Os nad ydych yn gallu cytuno, gofynnwch am enw'r rheolwr a siarad ag ef/hi.

Os ydych yn dal i fod yn anhapus,  cofrestrwch chwyn.

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Erbyn hyn bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622. (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau