Apelio yn erbyn dirwy parcio
Os ydych yn credu na ddylid fod wedi cyflwyno Rhybudd Tâl Cosbi (RhTC) i chi, gallwch ysgrifennu at Bartneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (WPPP) o fewn 14 diwrnod o ddyddiad y RhTC gan esbonio pam ydych chi'n meddwl y dylid dileu'r RhTC.
Gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys y rhif RhTC deg cymeriad (e.e. PP51235123) a'ch enw a'ch cyfeiriad fel y gallwn eich ateb.
Byddwch dal yn gallu talu gyda gostyngiad o 50% tan y bydd yr her wedi cael ei hystyried a phenderfyniad wedi cael ei wneud.
Os ydych yn anhapus gyda chanlyniad eich her, gallwch wneud apêl ffurfiol i'r Tribiwnlys Cosbau Traffig, y gwasanaeth barnu apeliadau parcio cenedlaethol. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 14 diwrnod o ddyddiad gwrthod eich her gyntaf.
Apêl
Rhaid i chi wneud eich apêl yn ysgrifenedig. Gallwch ei hanfon wedi hynny:
- Trwy'r post - anfonwch at WPPP, PO Box 273, Rhyl, LL18 9EJ
- Dros ffacs - anfonwch at 01745 839246
- Dros e-bost - pcn-query@wppp.org.uk
Peidiwch ag anfon unrhyw ohebiaeth yn uniongyrchol i Gyngor Sir Powys.
Dolenni defnyddiol
Rheoliadau Parcio a Thraffig tu allan i Lundain
Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru