Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau Diogelwch ar y Ffyrdd i Ysgolion

Cysylltwch ag ysgol eich plentyn i gael gwybodaeth am yr addysg diogelwch ar y ffyrdd mae'r ysgol wedi'i chynllunio.

 

Cyn-ysgol

Mae'r Uned Diogelwch ar y Ffordd yn cynnig sesiynau diogelwch ar y ffordd i leoliadau cyn-ysgol Powys, yn arbennig ar gyfer plant oed cyn-ysgol. Mae'r sesiynau'n cynnwys straeon, gemau a gweithgareddau sydd wedi bod yn gofiadwy i'r plant, yn ogystal â gwybodaeth i fynd adref i'r rhieni i atgyfnerthu'r neges ynglyn â diogelwch ar y ffordd.

I drefnu sesiwn diogelwch ar y ffordd ar gyfer eich lleoliad cyn-ysgol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cysylltu ar y dudalen yma.

 

Ysgolion Cynradd

Kerbcraft

Hyfforddiant ymarferol i gerddwyr, yn arbennig i blan rhwng 5 a 7 oed, yw Kerbcraft. Nod y cynllun yw dysgu'r plant trwy hyfforddiant ymarferol yn hytrach na thrwy wersi yn y dosbarth, a gwirfoddolwyr yng nghymuned yr ysgol sy'n darparu'r hyfforddiant.

Os hoffech chi fod yn wirfoddolwr Kerbcraft, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cysylltu ar y dudalen yma.

Hyfforddiant Seiclo

Mae hyfforddiant seiclo Safonau Cenedlaethol yn cael ei gynnig mewn rhai ysgolion ym Mhowys.  Anfonwch e-bost at road.safety@powys.gov.uk am ragor o wybodaeth.

 

Ysgolion Uwchradd

Bydd addysg ar ddiogelwch ar y ffyrdd yn cael ei gynnig i holl ysgolion uwchradd Powys. Bydd yn cwmpasu themâu fel yfed dan ddylanwad diod neu gyffuriau, pethau sy'n tynnu'n sylw a diogelwch ar fysiau, fel rhan o'r maes llafur ABaCh. Bydd y gwersi'n cael eu cynnal gydol y flwyddyn i bob grwp blwyddyn.

Yn ogystal ag addysg diogelwch ar y ffyrdd, bydd cyfle i ysglion uwchradd hefyd groesawu perfformwyr cwmni theatr teithiol sy'n arbenigol mewn theatr mewn addysg. Mae'r perfformiadau'n cyfleu'u neges yn groyw - sef mai rhywbeth sy'n berthnasol i bawb yw diogelch ar y ffordd.

Cysylltiadau

Mae'r manylion cysylltu hyn wedi'u bwriadu at ddibenion Addysg a Hyfforddiant Diogelwch ar y Ffyrdd yn unig

Eich sylwadau am ein tudalennau