Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwneud cais am oddefeb parcio

Mae goddefeb parcio'n caniatáu i rywun parcio cerbyd yn groes i orchymyn rheoliadau parcio mewn man parcio â chyfyngiad arno, os nad oes unrhyw fan parcio arall ar gael ac mae angen y cerbyd er mwyn gwneud gwaith penodol ar eiddo cyfagos, neu er mwyn bod mor agos â phosibl at yr eiddo wrth lwytho neu ddadlwytho nwyddau a deunyddiau.

Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau oni bai eu bod yn effeithio cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr eraill y ffordd, cerddwyr a busnesau lleol.

Ymhlith y mannau parcio â chyfyngiadau arnyn nhw mae'r canlynol:

  • Cilfannau aros cyfyngedig
  • Cilfannau llwytho
  • Llinellau melyn dwbl a sengl
  • Cilfannau lle mae angen trwydded trigolion 

Bydd cyflwyno goddefeb dros dro yn hysbysu'r Swyddogion Gorfodi Sifil bod gan y cerbyd ganiatâd i barcio yno'n groes i'r cyfyngiad sydd mewn grym.

Sut y byddwn yn asesu cais

Wrth asesu'r cais, byddwn yn ystyried:

  • Effaith cymeradwyo'r cais. Er enghraifft, byddwn yn gwirio nad oes unrhyw waith ffordd neu oddefebau eraill wedi'u cymeradwyo yn yr un ardal
  • Goblygiadau i ddiogelwch y ffordd
  • A ydych wedi talu'r ffi cywir

Ni fyddwn yn cyflwyno goddefeb (oni bai fod yr amgylchiadau'n rhai eithriadol iawn) ar gyfer y canlynol:

  • mannau parcio i bobl anabl
  • arosfannau bws a mannau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer defnyddwyr penodol, e.e. rhesi tacsis
  • ardaloedd a lleoliadau lle mae gwaharddiad neu gyfyngiadau ar lwytho
  • mannau ger croesfannau ysgol neu groesfannau cerddwyr gyda llinellau igam-ogam
  • lleoliadau o fewn 50 metr o gyffordd a reolir gan signalau
  • lleoliadau lle byddai'n aflonyddu'n ddifrifol ar draffig neu gerddwyr neu'n beryglus
  • sefyllfaoedd lle bo amheuaeth ynghylch dilysrwydd y cais

Pa mor hir fydd hi cyn i mi dderbyn yr oddefeb?

Mae'n rhaid i ni dderbyn ffurflen gais wedi'i llenwi'n gywir a'r taliad o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y dyddiad dechrau. Diben hyn yw ein galluogi ni i ystyried y mater yn llawn, ymgynghori â gwasanaethau eraill a chynnal archwiliad o'r safle.

Costau

Pris trwydded yw £25.00 y dydd, fesul cerbyd, gyda hyd at ddau gerbyd.

Dim ond ceisiadau am lai na 5 diwrnod fydd yn cael eu hystyried. Os oes angen mwy na 5 diwrnod arnoch, yna bydd angen i chi ofyn am gyngor y Gwasanaethau Parcio.

Os ydych yn newid eich cerbyd, neu os ydych yn colli eich trwydded, bydd rhaid talu £25 am un newydd.  

Ffurflen Gais

I wneud cais am drwydded bydd angen i chi ddangos:

  • Bod gwir angen i'r cerbyd gael ei barcio ar y man â chyfyngiad arno, er enghraifft i gyflawni tasg neu wneud rhyw waith
  • Nad oes gennych unrhyw le arall synhwyrol i barcio

Ffurflen gais am oddefeb parcio Ffurflen gais am oddefeb parcio