Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ar hyn o bryd rydym yn profi problemau technegol sy'n effeithio ar ffurflenni a phrosesau gwe ar draws y wefan. Efallai na fyddwch yn gallu gwneud pethau fel gwneud ceisiadau am wasanaeth, rhoi gwybod am broblemau, gwirio casgliadau biniau, archebu slot canolfan ailgylchu ac ati, nes bod y broblem wedi'i datrys. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.

Trwyddedau symud anifeiliaid

Image of sheep

Mae angen i ni wybod union leoliad da byw i'n helpu i atal afiechydon rhag lledaenu.  Rheolau yw'r rhain ar gyfer adnabod a symud da byw.  Mae'r rhain yn berthnasol hyd yn oed os mai dim ond un anifail o'r anifeiliaid a nodir isod rydych yn ei gadw.

Mae'n rhaid i chi lenwi dogfen Trwydded Symud Anifeiliaid bob tro y byddwch yn symud unrhyw geirw, moch, defaid a geifr.  Rhaid i'r sawl sy'n derbyn yr anifeiliaid roi gwybod am y symud o fewn tri diwrnod i'r anifeiliaid gael eu symud.



O'r 18 Ionawr 2016, mae gan ffermwyr y dewis o adrodd am symud anifeiliaid yn electronig neu barhau i ddefnyddio'r drwydded bapur i adrodd am symudiadau. Rhaid defnyddio fersiwn newydd o'r drwydded symudiadau.

Rhaid dychwelyd y fersiwn newydd o'r drwydded symudiadau i EIDCymru (yn hytrach na'ch awdurdod lleol).

Caiff gwartheg a cheffylau eu symud dan reolaeth pasbort perthnasol. Mae'r holl symudiadau yn destun amodau trwydded gyffredinol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu