Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Oriau Cyflogaeth a Ganiateir ar gyfer Plant (Trwyddedau Cyflogaeth Plant)

Ni ddylai unrhyw blentyn gael ei gyflogi am fwy na 4 awr heb o leiaf 1 awr o orffwys a hamdden

Dylai pob plentyn gael o leiaf 2 wythnos yn olynol o wyliau bob blwyddyn.

Pob oed

  • Dydd Llun i ddydd Sadwrn - Nid cyn 7am nac ar ôl 7pm
  • Dydd Sul - 2 awr yn unig -Nid cyn 7am nac ar ôl 7pm
  • Dyddiau ysgol - Hyd at 2 awr y dydd e.e. 1 awr cyn ysgol ac 1 awr ar ôl ysgol neu 2 awr ar ôl ysgol

13-15 oed

Dydd Sadwrn a gwyliau eraill yr ysgol

  • Dim mwy na 5 awr y dydd.  Dim mwy na 12 awr yr wythnos. (Oriau amser tymor)
  • Dim mwy na 5 awr y dydd.  Dim mwy na 25 awr yr wythnos.(Oriau dros y gwyliau)

15 oed a hŷn

 

Dydd Sadwrn a gwyliau eraill yr ysgol

  • Dim mwy na 8 awr y dydd.  Dim mwy na 12 awr yr wythnos. (Oriau amser tymor)
  • Dim mwy na 8 awr y dydd.  Dim mwy na 35 awr yr wythnos.(Oriau dros y gwyliau)

 

Cysylltiadau

  • Ebost: education@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826422
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Ysgolion ac Addysg, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma