Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Cyfrifoldebau Cyflogwr (Trwyddedau Cyflogaeth Plant)

Mae'n rhaid i bob plentyn oed ysgol â swydd ran amser yn gweithio i gyflogwr, boed hynny'n gyflogedig neu'n wirfoddol, gael ei gofrestru â'r Awdurdod Lleol a chael trwydded i weithio.  Cyfrifoldeb y cyflogwr yw gwneud cais am drwydded gwaith er mwyn cyflogi'r plentyn.

Os ydych chi, fel cyflogwr am i blant weithio i chi, yna mae'n rhaid i chi ystyried y rheolau a'r rheoliadau sy'n llywodraethu sawl awr y gall y plentyn gweithio, pa fath o waith y mae'n gallu'i wneud a'r math o safle y bydd y plentyn yn gweithio arno.

Rhaid i'r cyflogwr gynnal Asesiad Risg Pobl Ifanc o unrhyw beryglon sy'n ymwneud â chyflogi'r plentyn, a rhaid iddo roi gwybod i'r rhiant/y gwarcheidwad am ddeilliant yr asesiad. Rhaid i'r cyflogwr hefyd sicrhau bod y plentyn yn gwisgo'r dillad a'r esgidiau priodol a'i fod yn derbyn hyfforddiant, cyfarwyddyd a goruchwyliaeth addas, ynghyd ag yswiriant priodol.

Cyn pen 7 diwrnod o'r adeg y bydd y plentyn yn dechrau yn ei waith, rhaid i'r cyflogwr lenwi ffurflen gis Cyflogi Plant. Mae'n rhaid i'r cyflogwr lofnodi hwn, a hefyd rhiant/gwarcheidwad y plentyn. Mae'r cais yma'n rhoi manylion y plentyn, oriau'r gwaith, manylion y gweithle a'r math o waith y bydd y plentyn yn ei wneud.

Nid yw'r ddeddfwriaeth yn sôn am faint y mae'n rhaid i'r cyflogwr dalu'r plentyn oed ysgol. Trafodaethau rhwng y cyflogwr, y plentyn a'i riant/gwarcheidwad sy'n pennu hyn. Fodd bynnag, hyd yn oed os na thelir y plentyn, neu os yw'n derbyn taliad mewn nwyddau (e.e. gwersi marchogaeth am ddim, neu ginio neu nwyddau am ddim), bydd y sefyllfa yn dal i gyfrif fel 'cyflogaeth'.

Dylai unrhyw gyflogwr sy'n ystyried cyflogi plentyn a heb wneud hynny cynt gysylltu â'r Gwasanaeth Lles Addysg i gael cyngor.

Dylai cyflogwyr roi sylw i'r canlynol:

  • Mae'n anghyfreithlon cyflogi plentyn dan 13 oed.
  • Mae'n anghyfreithlon cyflogi plentyn heb fod gennych Drwydded Cyflogi Plant.
  • Ni all plant ond gwneud rhai mathau penodol o waith (gweler isod)
  • Ni all plentyn weithio rhwng 7pm a 7am (o ddydd Llun i ddydd Sadwrn)
  • Ni all plentyn weithio am fwy na 2 awr ar ddiwrnod ysgol.
  • Ni all plentyn weithio am fwy na 2 awr ar ddydd Sul, a hynny rhwng 7am a 7pm.
  • Ni all plentyn weithio mwy na 12 awr yn ystod unrhyw wythnos ysgol.
  • Gall plentyn 13 neu 14 oed weithio hyd at 5 awr ar ddydd Sadwrn neu wyliau ysgol, hyd at uchafswm o 25 awr yr wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol.
  • Gall plentyn 15 neu 16 oed weithio hyd at 8 awr ar ddydd Sadwrn neu wyliau ysgol, a hyd at uchafswm o 35 awr yr wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol.
  • Rhaid i blentyn sy'n gweithio am 4 awr gael egwyl o 1 awr o leiaf.
  • Rhaid i blentyn gael o leiaf 2 wythnos yn olynol o wyliau bob blwyddyn

Dim ond rhai o'r rheolau a'r rheoliadau ynglyn â chyflogi plant yw'r uchod, a chi fel cyflogwr sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o'r Ddeddfwriaeth Cyflogi Plant a bod unrhyw blentyn a gyflogwch yn cael ei gyflogi'n gyfreithlon.

Cysylltiadau

  • Ebost: education@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826422
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Ysgolion ac Addysg, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu