Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau Perfformio i Blant

 
Child Licences icon
Mae'n bosibl y bydd angen trwydded perfformio ar blant sy'n perfformio (boed yn broffesiynol neu'n amatur). Wedi'i rheoleiddio dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadaau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015. 

Mae'n bosibl y bydd angen trwydded perfformiad a gwarchodwr trwyddededig ar blant wrth gymryd rhan mewn adloniant, er enghraifft teledu, ffilm, theatr, modelu, sieoau dawns, pantomeim, drama amatur, grwpiau cerddoriaeth a chwaraeon cyflogedig (boed yn broffesiynol neu'n amatur).

Diben y gofynion hyn yw sicrhau nad yw'r 'gwaith' yn andwyol i les ac addysg y plant. Mae trwyddedau plant AM DDIM ac maent i'w cael trwy Awdurdod Lleol cartref y plentyn. 

Anfonwch e-bost at education@powys.gov.uk am ffurflen gais trwydded perfformiad plant neu drwyddedu hebryngwr.

 

Pryd fydd angen trwydded arna'i?

I  bob plentyn o'u geni hyd at ddiwedd eu haddysg orfodol. (Y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd y byddant yn dathlu'u 16 oed yw'r diffiniad o'r adeg yma.)

  • Pan fydd ffi yn cael ei chodi mewn cysylltiad â'r perfformiad. Mae hyn yn berthnasol p'un a yw'r perfformwyr yn cael eu talu ai peidio.
  • Pan fydd y perfformiad yn digwydd ar safle trwyddedig neu mewn clwb cofrestredig.
  • Pan fydd y perfformiad yn cael ei recordio er mwyn ei ddarlledu neu'i arddangos (er enghraifft ar deledu, ar y radio, mewn ffilm, ar y rhyngrwyd ac ati) 

Eithriadau

Mae adran 37(3) Deddf 1963 yn manylu ar yr eithriadau. Mae'r rhain yn gymwys dim ond lle nad yw'r plentyn nac unrhyw un arall yn cael eu talu am berfformiad y plentyn, ac eithrio'r treuliau. Nid w'r eithriadau hyn yn gymwys i chwaraeon cyflogedig na gwaith modelu cyflogedig. Dyma'r prif eithriadau:

Rheol 4 Diwrnod:

Os nad yw'r plentyn wedi perfformio am fwy na 3 diwrnod yn ystod y 6 mis diwethaf, ni fydd angen trwydded arnynt i berfformio ar y pedwerydd dydd. Pan fydd y plentyn wedi perfformio ar 4 diwrnod mewn cyfnod o 6 mis (mewn unrhyw berfformiad, p'un a oedd trwydded yn bodoli ar unrhyw un o'r dyddiau hynny ai peidio, ynteu a oedd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad a drefnwyd dan gymeradwyaeth cwmni o bobl) yna mae angen trwydded ar gyfer unrhyw berfformiad pellach (oni bai fod un o'r eithriadau y cyfeirir atynt isod yn berthnasol).

Os oes angen i'r plentyn fod yn absennol o'r ysgol, ni ellir dibynnu ar yr eithriad yma: bydd angen trwydded.

Perfformiadau sy'n cael eu trefnu gan Ysgol:

Nid yw hyn yn cynnwys ysgolion dawns neu ddrama, y mae'n rhaid iddynt wneud cais am drwydded(au) lle bo angen.

 Cymeradwyaeth Corff o Bersonau (BOPA)

Mewn ambell achos, gall trefnydd perfformiad sy'n cynnwys plant wneud cais am BOPA.  Mae BOPA yn cynnwys yr holl blant dan un gymeradwyaeth, yn hytrach na thrwyddedau unigol ar gyfer pob plentyn. Yr awdurdod lleol fydd yn defnyddio'i ddisgresiwn i benderfynu a ddylid cyflwyno BOPA ai peidio.

Gall unrhyw sefydliad wneud cais am BOPA, cyn belled na fydd unrhyw blentyn yn cael ei dalu.  Bydd yr awdurdod lleol yn gofyn am sicrwydd bod gan y corf dan sylw bolisïau eglur, cadarn a sefydlog mewn perthynas â diogelu plant. Dylid gwneud cais am BOPA i'r awdurdod lleol lle cynhelir y perfformiad. Gall yr awdurdod lleol roi'r gymeradwyaeth hyd yn oed os nad yw'r plant sy'n cymryd rhan yn byw o fewn ei ffiniau. Os cyflwynir BOPA, bydd hyn yn golygu nad oes angen gwneud cais am drwydded unigol ar gyfer pob plentyn. Y sefydliad sy'n gyfrifol am y perfformiad sy'n derbyn y BOPA.  Gall yr awdurdod orfodi'r amodau sy'n angenrheidiol yn eu barn nhw er mwyn sicrhau lles y plant sy'n cymryd rhan, a gallant ddiddymu'r gymeradwyaeth os nad yw'r rheolau'n cael eu parchu.

Os yw plentyn i fod yn absennol o'r ysgol ni ellir dibynnu ar yr eithriad yma: bydd angen trwydded.

Gwarchodwyr

Rhaid i blant sy'n cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus dan drwydded a gyflwynir gan yr awdurdod lleol gael eu goruchwylio gan Warchodwr a gymeradwyir gan y Cyngor. Caiff ei reoleiddio gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau (Cymru).

Mae'n ofyniad cyfreithiol bod yn rhaid i Warchodwr wedi'i gymeradwyo gan y cyngor oruchwylio plant sy'n cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus, yn gweithio ar deledu, mewn ffilm, gwaith modelu neu chwaraeon, dan drwydded, oni bai eu bod yng ngofal eu rhieni, gwarcheidwad cyfreithiol neu dan rhai amgylchiadau, athro neu athrawes.

Mae pennaf ddyletswydd Gwarchodwr tuag at y plentyn y mae'n gofalu amano. Ef neu hi sy'n gyfrifol am ddiogelu, cynorthywo a hybu lles y plentyn, a rhaid iddo/iddi beidio â chymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd fyddai'n ymyrryd â'r ddyletswydd honno.

Rhaid i warchodwyr aros gyda'r plentyn bob amser, a gallu gweld y plentyn pan fydd ar y llwyfan, ar y set neu'n perfformio. Bydd union ddyletswyddau'r gwarchodwr pan fydd y plentyn yn y man perfformio  neu leoliad y gweithgareddau yn amrywio gan ddibynnu ar y math o berfformiad neu weithgaredd. Fodd bynnag, sicrhau bod goruchwyliaeth briodol ar y plentyn/plant pan nad ydynt yn perfformio, a'u bod yn cael prydau, gorffwys a hamdden digonol, yw eu prif ddyletswydd. Rhaid i warchodwyr hefyd sicrhau bod y cwmni neu'r man perfformio'n trefnu cyfleusterau newid addas ar gael, sy'n golygu ystafelloedd newid ar wahân i ferched a bechgyn dros bum mlwydd oed.

Gall Gwarchodwr oruchwylio hyd at 12 o blant. Serch hynny, oherwydd gofynion y perfformiad, neu oed, rhyw neu anghenion arbennig y plant, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu y bydd y Gwarchodwr yn gyfrifol am nifer is o blant, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu'n briodol. 

Mae'r broses o gofrestru Gwarchodwr ym Mhowys yn cynnwys y canlynol:

  • Llenwi ffurflen gais
  • Un ffotograff maint llun pasbort
  • Bod ar gael ar gyfer cyfweliad
  • Argymhellion boddhaol gan ddau o bobl sy'n cyflwyno geirda
  • Tystysgrif gwiriad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
  • Mynychu cwrs hyfforddi
  • Talu ffioedd perthnasol

Cysylltiadau

  • Ebost: education@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826422
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Ysgolion ac Addysg, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma