Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Trwyddedau bridio cwn

Os ydych yn bridio cwn i'w gwerthu, mae'n rhaid i chi gael trwydded wrthym ni. 

Dylai unrhyw un sy'n cadw sefydliad bridio c?n wneud cais.  Mae rhywun yn cadw sefydliad bridio c?n os oes ganddynt fusnes bridio c?n i'w gwerthu oddi ar unrhyw safle.

Mae rhywun yn bridio c?n os yw'n cadw 3 neu ragor o eist bridio ar y safle ac yn:-

  • bridio 3 neu ragor o doreidiau o g?n bach mewn cyfnod o 12 mis o'r safle hynny;
  • yn hysbysebu bod ganddo gi bach neu g?n bach i'w gwerthu o'r safle hynny sydd wedi'u geni o 3 neu ragor o doreidiau o g?n bach sydd i'w gwerthu mewn cyfnod o 12 mis;
  • yn cyflenwi o'r safle hynny, gi bach neu g?n bach sydd wedi'u geni o 3 neu ragor o doreidiau o g?n bach i'w gwerthu mewn cyfnod o 12 mis; neu
  • yn hysbysebu busnes sy'n bridio neu'n gwerthu c?n bach o'r safle hynny.

Mae nodyn esboniadol hirach ar gael o'r swyddfa drwyddedu ardal.  Mae'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.

Gallwch gael ffurflenni cais o'r Gwasanaeth Safonau Masnach trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen.  A fyddech gystal â llenwi'r ffurflen a'i dychwelyd gyda'r ffi i'r swyddfa drwyddedu ardal.

Byddwn yn codi ffi am y drwydded hon.

Os ydych yn syrthio'n is na'r trothwy ar gyfer gofyn am Drwydded Bridwyr Cŵn, h.y. eich 

bod yn cadw llai na 3 gast fridio, a neu'n bridio llai na 3 thorllwyth o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis, efallai y bydd angen trwydded arnoch o hyd o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021.

Mae Atodlen 1 i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru) 2021yn diffinio gweithgareddau trwyddedadwy gwerthu anifeiliaid anwes. Mae'r gweithgaredd trwyddedadwy wedi'i gyfyngu i fusnesau neu'r rhai sy'n gweithredu ar sail fasnachol, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu o eiddo domestig i ddal trwydded os ydynt: -

(a)    yn gwneud unrhyw werthiant gan y gweithgaredd, neu ei gario ymlaen fel arall, gyda'r bwriad o wneud elw; neu

(b)    yn ennill unrhyw gomisiwn neu ffi o'r gweithgaredd

Mae CThEM wedi dweud y byddech yn cael eich ystyried yn fusnes pe baech yn gwneud elw y mae CThEM yn ei ddiffinio fel dros £1000.

Yn y meini prawf cwmpas Mae gweithgareddau sy'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf canlynol yn ddarostyngedig i drwyddedu:

1. Mewnforio, dosbarthu a gwerthu anifeiliaid gan fusnes.

2. Busnesau sydd wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau.

3. Busnesau neu unigolion sy'n gweithredu o eiddo domestig at ddibenion masnachol (dylid nodi efallai na fydd llawer ohonynt wedi'u rhestru gyda Thŷ'r Cwmnïau).

4. Eiddo sy'n agored i aelodau o'r cyhoedd, neu fusnesau eraill lle mae anifeiliaid ar gael i'w prynu. Dangosyddion canllaw ar gyfer rhedeg busnes gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes. Gallai'r canlynol gynorthwyo i ystyried y meini prawf a restrir uchod:

  • Mewnforio, dosbarthu a gwerthu anifeiliaid drwy ffi sefydlog;
  • Prynu anifeiliaid gyda'r bwriad penodol o'u gwerthu;
  • Pan fydd anifeiliaid yn cael eu prynu ac yna'n cael eu hailhysbysebu i'w gwerthu, neu eu gwerthu o fewn cyfnod byr;
  • Mae nifer, amlder a/neu faint y gwerthiannau - trafodion systematig ac ailadroddus gan ddefnyddio'r un dulliau hysbysebu yn debygol o nodi gweithgaredd masnachol;
  • Gallai nifer uchel o anifeiliaid sy'n cael eu gwerthu neu eu hysbysebu i'w gwerthu, neu nifer uchel o dorllwythi neu epil ddynodi  busnes; 2 Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol (Cymru a Lloegr) 2009 WG43756 8
  • Gallai nifer isel o anifeiliaid sy'n cael eu gwerthu neu eu hysbysebu ddynodi busnes lle mae prisiau gwerthiant uchel neu elw mawr yn gysylltiedig;
  • Amrwyiaeth ac amrywioldeb mawr yn yr anifeiliaid a fasnachwyd. Gallai amrywiaeth eang o rywogaethau neu dacsa sy'n cael eu masnachu nodi natur fasnachol y gweithgaredd;
  • Gallai nifer uchel o hysbysebion am anifeiliaid i'w gwerthu, gan gynnwys ar wefannau dosbarthedig, nodi ymddygiad masnachol, hyd yn oed os nad oes gwerthiant gwirioneddol yn digwydd drwy'r rhyngrwyd. Gallai hyn fod yn nifer uchel o hysbysebion ar unrhyw un adeg neu dros gyfnod byr o amser, a/neu'n rheolaidd.
  • Gallai hysbysebu drwy amrywiaeth o safleoedd, fforymau neu gyfryngau nodi gweithgaredd masnachol.

Contacts

  • Email: trading.standards@powys.gov.uk
  • Phone: 0345 6027030
  • Address for North Powys: Trading Standards - Animal Health and Movement, Kirkhamsfield Depot, Newtown, Powys, SY16 3AF
  • Address for Mid Powys:  Trading Standards - Animal Health and Movement, County Hall, Spa Road East, Llandrindod Wells, Powys, LD1 5LG
  • Address for South Powys: Trading Standards - Animal Health and Movement Neuadd Brycheiniog, Brecon, Powys, LD3 7HR

Feedback about a page here


Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu