Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau hypnotiaeth

Hypnotism licences

Bydd angen caniatâd i gynnal unrhyw arddangosfa neu berfformiad hypnoteiddio ar unrhyw un, a rhaid cydymffurfio ag unrhyw amodau y byddwn yn eu gosod.

 

Sut i wneud cais

Llenwch gais ar-lein trwy ddefnyddio'r dolenni isod.  Bydd y dolenni yn eich trosglwyddo i wefan arall y llywodraeth. 

Gwneud cais am drwydded ar gyfer hypnoteiddio

Nid ydym yn codi tâl am y drwydded hon.

Neu, gall y perfformiwr neu ei asiant wneud cais ysgrifenedig gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  Rhaid i bob cais gynnwys enw llawn y perfformiwr, manylion y tri pherfformiad diwethaf, a manylion unrhyw ganiatâd sydd wedi'i wrthod neu ei dynnu'n ôl.  Mae'r gwasanaeth hwn am ddim.

Os na fyddwch wedi clywed oddi wrthym o fewn 14 diwrnod calendr o anfon eich cais gallwch gymryd yn ganiataol ein bod yn rhoi caniatâd.

Apeliadau

Os nad ydych yn fodlon â'n penderfyniad, mae croeso i chi gysylltu â ni i'w drafod.

Cwynion gan ddefnyddwyr

Os oes gennych chi gwyn am hypnotydd, cysylltwch â'ch swyddfa leol gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma