Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwerthu Anifeiliaid Anwes (Siopau anifeiliaid anwes a gwerthiannau masnachol eraill)

I redeg busnes sy'n gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes, bydd angen trwydded arnoch. Mae hyn yn cynnwys gwerthu anifeiliaid anwes yn fasnachol, gan gynnwys mewn siopau anifeiliaid anwes, o eiddo domestig a busnesau sy'n gwerthu anifeiliaid dros y we.

Mae cadw a gweithredu busnes sy'n gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes yn cael ei reoli gan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru) 2021

Mae Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru) 2021 yn diffinio gweithgareddau trwyddedadwy gwerthu anifeiliaid anwes. Mae'r gweithgaredd trwyddedadwy wedi'i gyfyngu i fusnesau neu'r rhai sy'n gweithredu ar sail fasnachol, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu o eiddo domestig i ddal trwydded os ydynt: -

(a) yn gwneud unrhyw werthiant gan y gweithgaredd, neu ei gario ymlaen fel arall, gyda'r bwriad o wneud elw;

neu

(b) yn ennill unrhyw gomisiwn neu ffi o'r gweithgaredd

Mae CThEM wedi dweud y byddech yn cael eich ystyried yn fusnes pe baech yn gwneud elw y mae CThEM yn ei ddiffinio fel dros £1000.

Yn y meini prawf cwmpasu mae gweithgareddau sy'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf canlynol yn ddarostyngedig i drwyddedu:

  1. Mewnforio, dosbarthu a gwerthu anifeiliaid drwy fusnes.
  2. Busnesau sydd wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau.
  3. Busnesau neu unigolion sy'n gweithredu o eiddo domestig at ddibenion masnachol (dylid nodi efallai na fydd llawer ohonynt wedi'u rhestru gyda Thŷ'r Cwmnïau).
  4. Eiddo sy'n agored i aelodau o'r cyhoedd, neu fusnesau eraill lle mae anifeiliaid ar gael i'w prynu.

Dangosyddion canllaw ar gyfer rhedeg busnes sy'n gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes.

Gallai'r canlynol gynorthwyo i ystyried y meini prawf a restrir uchod:

  • Mewnforio, dosbarthu a gwerthu anifeiliaid drwy ffi sefydlog;
  • Prynu anifeiliaid gyda'r bwriad penodol o'u gwerthu;
  • Pan fydd anifeiliaid yn cael eu prynu ac yna'n cael eu hailhysbysebu i'w gwerthu, neu eu gwerthu o fewn cyfnod byr;
  • Nifer, amlder a/neu faint y gwerthiannau - mae trafodion systematig ac ailadroddus gan ddefnyddio'r un dulliau hysbysebu yn debygol o nodi gweithgaredd masnachol;
  • Nifer uchel o anifeiliaid sy'n cael eu gwerthu neu eu hysbysebu i'w gwerthu, neu gallai nifer uchel o dorllwythi neu ddynodi nodi busnes;
  • Gallai nifer isel o anifeiliaid sy'n cael eu gwerthu neu eu hysbysebu ddynodi busnes lle mae prisiau gwerthiant uchel neu elw mawr yn gysylltiedig;
  • Ystod uchel ac amrywioldeb yn yr anifeiliaid a fasnachwyd. Gallai amrywiaeth eang o rywogaethau neu dacsa sy'n cael eu masnachu nodi natur fasnachol y gweithgaredd;
  • Gallai nifer uchel o hysbysebion am anifeiliaid i'w gwerthu, gan gynnwys ar wefannau dosbarthol, ddynodi ymddygiad masnachol, hyd yn oed os nad oes gwerthiant gwirioneddol yn digwydd drwy'r rhyngrwyd. Gallai hyn fod yn nifer uchel o hysbysebion ar unrhyw un adeg neu dros gyfnod byr o amser, a/neu'n rheolaidd.
  • Gallai hysbysebu drwy amrywiaeth o safleoedd, fforymau neu gyfryngau nodi gweithgaredd masnachol.

Ni allwch wneud cais am drwydded siop anifeiliaid anwes os ydych wedi cael eich gwahardd o'r blaen rhag cadw siop anifeiliaid anwes.

Yr hyn y byddwn yn ei wirio

I roi trwydded, bydd angen prawf arnom:

  • y bydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas, er enghraifft o ran tymheredd, maint, goleuadau, awyru a glanweithdra.
  • bydd bwyd a diod digonol yn cael eu darparu i'r anifeiliaid, ac ymwelir â nhw ar gyfnodau addas.
  • na fydd unrhyw anifeiliaid mamalaidd yn cael eu gwerthu'n rhy ifanc.
  • bod camau'n cael eu cymryd i atal clefydau rhag lledaenu ymhlith yr anifeiliaid.
  • bod darpariaethau tân ac argyfwng digonol ar waith.

Am fwy o wybodaeth: Canllawiau statudol ar gyfer y gyfundrefn trwyddedu gwerthiant anifeiliaid anwes | GOV. CYMRU 

Apeliadau

Os na fyddwch yn cael trwydded neu os nad ydych yn fodlon ag amodau eich trwydded, gallwch apelio i'r llys Ynadon.

Ffurflen Gais

Gallwch gael ffurflen gais oddi wrthym ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa trwyddedu ardal gyda'r ffi.

Byddwn yn codi ffi am y drwydded hon.

Ffioedd a thaliadau ar gyfer trwyddedau

 

Contacts

  • Email: trading.standards@powys.gov.uk
  • Phone: 0345 6027030
  • Address for North Powys: Trading Standards - Animal Health and Movement, Kirkhamsfield Depot, Newtown, Powys, SY16 3AF
  • Address for Mid Powys:  Trading Standards - Animal Health and Movement, County Hall, Spa Road East, Llandrindod Wells, Powys, LD1 5LG
  • Address for South Powys: Trading Standards - Animal Health and Movement Neuadd Brycheiniog, Brecon, Powys, LD3 7HR

Feedback about a page here


 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu