Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau delwyr metel sgrap

Os ydych chi'n fusnes sy'n delio mewn metel sgrap, byddwch angen trwydded.  Mae yna ddau fath o drwydded. Os ydych yn gweithio o leoliad penodol ym Mhowys bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Safle Deliwr Metel Sgrap.  Os ydych yn delio mewn metel sgrap heb ddefnyddio safle penodol, ac yn casglu metel sgrap o ddrws i ddrws, byddwch angen Trwydded Casglwr.

Byddwch angen trwydded i brynu neu werthu unrhyw fetel sgrap y byddwch yn ei gasglu. Hyd yn oed os byddwch yn cael y deunydd am ddim, ni allwch ei werthu heb drwydded. Bydd angen trwydded casglwr o bob un o'r awdurdodau lleol yr ydych yn casglu ynddynt. 

Bydd unrhyw un sy'n mynd â metel sgrap i safle trwyddedig angen mynd â dogfen adnabod ffurfiol gyda hwy (e.e. pasbort neu gerdyn trwydded gyrru gyda llun) a rhaid i ddelwyr ofyn i'w weld.

 

Sut i wneud cais

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais a'i hanfon atom, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon, gyda'r tâl cywir.

Bydd angen i ni weld y canlynol hefyd

  • Cofnod troseddol sylfaenol, o 'Disclosure Scotland';
  • Ffurf adnabod â llun e.e. cerdyn trwydded yrru gyda llun neu basbort;
  • Prawf o'ch cyfeiriad e.e. bil prif wasanaeth, datganiad banc

Byddwn yn cysylltu â'r Heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd yr Amgylchedd ynglyn â'ch cais.

Dim ond drwy siec na ellir ei drosglwyddo, neu drosglwyddiad electronig y gellir gwneud y taliadau. Nid ydym yn derbyn arian parod mwyach.

 

Ffurflen gais

Gallwch wneud cais ar lein trwy ddefnyddio'r dolenni isod. Mae'r dolenni'n mynd â chi i wefan arall y llywodraeth.

Gwneud cais i gofrestru fel deliwr metel sgrap

Dweud wrthym ni am newid i'ch cofrestriad presennol fel deliwr metel sgrap

Byddwn yn codi tâl am y drwydded hon.

 

Apeliadau a chwynion

Os ydych yn anhapus gyda'n penderfyniad ni, cysylltwch â ni.

Os oes gennych gwyn am fusnes sy'n masnachu mewn metel sgrap, cysylltwch â'ch swyddfa leol gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma