Toglo gwelededd dewislen symudol

Tystysgrifau diogelwch ar gyfer meysydd chwaraeon

Rydym yn gyfrifol am gyflwyno tystysgrifau diogelwch i feysydd chwaraeon.  Mae'r dystysgrif hon yn sicrhau diogelwch y gwylwyr.  Hyd yn oed os nad oes angen tystysgrif ddiogelwch ar faes chwaraeon, bydd dal i fod angen tystysgrif ddiogelwch arnoch ar gyfer unrhyw eisteddle dan do sy'n dal 500 neu fwy o wylwyr.

 

Beth sydd angen tystysgrif diogelwch?

Mae angen tystysgrifau diogelwch ar gyfer:

  • stadia sy'n gallu dal 10,000 neu ragor o wylwyr
  • stadia pêl-droed yr uwch-gynghrair a chynghrair
  • eisteddleoedd rheoledig (meysydd gydag eisteddleoedd dan do sy'n gallu dal 500 neu fwy o wylwyr).

Gall tystysgrif ddiogelwch fod naill ai'n:

  • dystysgrif gyffredinol a gyflwynwyd ar gyfer defnyddio meysydd chwaraeon ar gyfer gweithgarwch neu weithgareddau penodol dros gyfnod amhenodol.
  • tystysgrif ddiogelwch arbennig ar gyfer defnyddio maes chwaraeon ar gyfer gweithgarwch neu weithgareddau penodol ar achlysur neu achlysuron penodol.

Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau neu delerau sydd ynghlwm â thystysgrif.

I fod yn gymwys am dystysgrif ddiogelwch, rhaid i chi fod mewn sefyllfa i atal torri'r  amodau a'r telerau sydd yn y dystysgrif. 

 

Sut i wneud cais

Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen hon i wneud cais neu i ofyn am ragor o wybodaeth.

Dylai ffurflenni cais gynnwys:

  • asesiadau risg
  • cynlluniau wrth gefn
  • polisi diogelwch i wylwyr
  • enw a chymwysterau'r swyddog diogelwch.

Rhaid i chi gyflwyno unrhyw wybodaeth a chynlluniau yr ydym yn gofyn amdanynt o fewn yr amser penodedig.  Os byddwch yn methu gwneud hyn, byddwn yn ystyried bod y cais wedi cael ei dynnu nôl.

Byddwn yn penderfynu a yw'r ymgeisydd yn gallu sicrhau fod amodau a thelerau tystysgrif yn gallu cael eu diwallu. Os oes cais yn cael ei wneud i drosglwyddo tystysgrif, rhaid i ni benderfynu os fyddai'r person sydd i gael y dystysgrif, pe byddai wedi gwneud cais ei hun, yn gymwys am dystysgrif.  Gall yr ymgeisydd fod yn un sydd â'r dystysgrif ar hyn o bryd neu'r un fydd yn derbyn y dystysgrif ar ôl ei throsglwyddo.

Byddwn yn anfon copi o'ch cais at brif swyddog yr heddlu, yr awdurdod tân ac achub a'r awdurdod adeiladu.   Rhaid gofyn i bob un o'r cyrff hyn wneud sylwadau am yr amodau a'r telerau sydd i'w cynnwys mewn tystysgrif neu unrhyw gais i ddiwygio, ailgyflwyno neu drosglwyddo tystysgrif.

Os na fyddwch wedi clywed oddi wrthym o fewn 14 diwrnod calendr wedi cyflwyno eich cais, cysylltwch â ni. Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ochr dde'r dudalen hon.

 

Apeliadau

Os ydych yn anhapus am ein penderfyniad, cysylltwch â ni i drafod hyn cyn gwneud apêl.

Gall unrhyw un sydd â'i gais am dystysgrif diogelwch yn cael ei wrthod, gan nad ydynt yn cael eu hystyried yn berson cymwys, apelio i Lys yr Ynadon.

Gall unrhyw un sydd â'i gais am dystysgrif diogelwch arbennig yn cael ei wrthod, apelio i Lys yr Ynadon oni bai i'r cais gael ei wrthod oherwydd nad ydynt yn berson cymwys.

Os mai chi sy'n gyfrifol am amodau a thelerau'r dystysgrif ddiogelwch, gallwch apelio i Lys yr Ynadon yn erbyn:

  • unrhyw amod sydd ynghlwm â thystysgrif
  • unrhyw beth sydd wedi'i hepgor o dystysgrif
  • gwrthod diwygio neu ailgyflwyno tystysgrif ddiogelwch.

Gallwch apelio hefyd i lys y goron yn erbyn penderfyniad llys yr ynadon.

 

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os oes gennych gwyn am ddiogelwch maes chwaraeon, cysylltwch â'ch swyddfa leol gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

 

Ffurflenni cais

Gallwch wneud cais ar-lein trwy ddefnyddio'r ddolen isod. Mae'r ddolen yn mynd â chi i wefan arall y llywodraeth.

Gwneud cais am dystysgrif diogelwch maes chwaraeon

Newid tystysgrif ddiogelwch ar gyfer maes chwaraeon

Gwneud cais am dystysgrif eisteddle rheoledig

Gallwch gael ffurflenni cais oddi wrthym ni hefyd trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon. Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd atom i'r swyddfa drwyddedu ardal.

Codir tâl ar gyfer y drwydded hon

Gweld ffioedd a phrisiau yma​​​​​​​.

Cysylltiadau

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: Lechyd yr Amgylchedd, Y Gwalia, Ffordd Ieithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Eich sylwadau am ein tudalennau