Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Trwyddedau a Hawlebau - Masnachu ar y Sul

Dim ond rhai siopau sy'n cael caniatâd dan y gyfraith i agor ar ddydd Sul ac yn ystod y Pasg neu'r Nadolig, ac mae dirwyon yn bodoli i orfodi'r cyfreithiau hynny.

Ar ddydd Sul, mae'r gyfraith yn dweud:

  • Siopau bach - gall siopau bach h.y. busnesau adwerthu gydag arwynebedd llawer o lai na 280 medr sgwâr (3,014 troedfedd sgwâr) agor trwy'r dydd.
  • Siopau mwy - gall busnesau adwerthu gydag arwynebedd llawr o dros 280 medr sgwâr (3,014 troedfedd sgwâr), agor heb fod yn fwy na chwe awr rhwng 10 a.m. a 6 p.m.

Mae rhai busnesau mwy wedi'u heithrio e.e. fferyllfeydd, ardaloedd gwasanaeth ar draffyrdd, bwytai, siopau trin gwallt a busnesau eraill sy'n darparu gwasanaethau. Nid oes rheoliadau ar gyfer marchnadoedd stryd ac arwerthiannau cist car.

Mae Deddf Masnachu ar y Sul 1994 yn rheoli oriau agor siopau. Nid yw'n rheoli gwerthu nwyddau penodol. Fodd bynnag, mae rhai nwyddau, megis alcohol, yn destun deddfwriaeth ar wahân.

Oriau agor ar Ddydd Sul y Pasg a'r Nadolig

Mae'r gyfraith yn dweud:

  • Gall siopau bach h.y. busnesau adwerthu gydag arwynebedd llawr sy'n llai na 280 medr sgwâr (3,014 troedfedd sgwâr) agor trwy'r dydd.
  • Ni chaniateir i siopau mwy h.y. busnesau adwerthu gydag arwynebedd llawr sydd dros 280 medr sgwâr (3,014 troedfedd sgwâr), agor ar Ddydd Sul y Pasg na Dydd Nadolig.

Mae rhai busnesau mwy wedi'u heithrio e.e. fferyllfeydd, ardaloedd gwasanaeth ar draffyrdd, bwytai, siopau trin gwallt a busnesau eraill sy'n darparu gwasanaethau.

Mae dirwy o £50,000 am dorri Deddf Masnachu ar y Sul 1994 a Deddf Dydd Nadolig (Masnachu) 2004.

Cyswllt

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: 
    • Sir Brycheiniog, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, LD3 7HR
    • Sir Drefaldwyn, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, SY21 7PH
    • Sir Faesyfed, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau


Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu